Mae cyfeillion yr Eisteddfod Genedlaethol ac ysgolheigiaeth y Gymraeg yn galaru wedi marwolaeth Dr Llŷr Roberts, Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod, yn 45 oed.

Roedd yn arbenigo ar reolaeth, busnes a marchnata, ac ers mis Ionawr roedd wedi dechrau darlithio ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd ei fagu ym mhentref Llanrug ger Caernarfon, ac roedd newydd ymgartrefu yn y Felinheli, nid nepell o fro’i gynefin, ar ôl cyfnod hir yng Nghaerdydd.