Rhag bod unrhyw amheuaeth ymysg eich colofnwyr na neb arall, dyma’r cynnig a gyflwynais i Gyngor yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ac a gafodd gefnogaeth unfrydol y Cyngor:

Prifwyl Gymraeg gyfoes a chynhwysol yw’r Eisteddfod Genedlaethol, a disgwylir i bob unigolyn a gaiff y fraint o berfformio ar unrhyw un o’i llwyfannau barchu’r rheol Gymraeg a’r iaith ei hun.