Mae rhai o fenywod Plaid Cymru wedi awgrymu mai dynes ddylai olynu Adam Price… ond does yr un ohonyn nhw wedi rhoi eu henwau yn yr het… 

Mae disgwyl mai Rhun ap Iorwerth fydd yn cael ei goroni yn arweinydd newydd Plaid Cymru yr wythnos hon, wedi i weddill o aelodau grŵp Senedd y blaid benderfynu peidio sefyll yn y ras arweinyddol.

Dyma’r ail dro iddo sefyll am y rôl wedi iddo herio’r cyn-arweinyddion Leanne Wood ac Adam Price yn ôl yn 2018.