Ar ôl 20 o Eisteddfodau Cenedlaethol, mae Tudur Dylan Jones wedi rhoi’r gorau i fod yn feuryn Ymryson y Beirdd.

Yr Ymryson yw’r ornest farddol a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod dan ofal Cymdeithas Barddas, a’r meuryn sy’n ceisio cadw trefn ar y cystadlu. Bydd enw’r meuryn newydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan, i gymryd yr awenau yn y brifwyl ym Moduan ym mis Awst.