Mae Alun Wyn Jones a Justin Tipuric ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cyhoeddi yn ddiweddar nad ydyn nhw am barhau i chwarae i Gymru…

Dydy sefyllfa rygbi Cymru ddim yn fêl i gyd o bell ffordd, yn ôl y sylwebydd Cennydd Davies, sy’n dweud ei fod yn teimlo bod anniddigrwydd dan yr wyneb o hyd yn dilyn blwyddyn gythryblus yn y berthynas rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r chwaraewyr.