Mae yna gyfle i chi berchnogi darlun unigryw eich hun o’r arwres o Langrannog…

Cafodd cerflun newydd sbon o un o enwogion Ceredigion, Sarah Jane Rees, ‘Cranogwen’, ei ddadorchuddio mewn achlysur yn Llangrannog ddydd Sadwrn.

Roedd Cranogwen, a gafodd ei geni yn 1839, yn fardd a golygydd, yn athro, yn ddarlithydd ac ymgyrchydd, ac yn forwr.