Fe gafwyd Rhuthr Aur yng Nghymru yn 1888, gyda’r dyn busnes tu ôl i’r cyfan yn gwobrwyo côr buddugol y Steddfod gyda baton arweinyddol wedi ei wneud o aur…

Ychydig sydd wedi’i sgrifennu am hanes rhyfeddol “Brenin Aur Cymru”, a hynny er cymaint ei ddylanwad ar ddiwydiant aur y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg.

Mae cyfrol newydd gan hanesydd o Gaerdydd yn ceisio unioni’r cam hwnnw, a rhoi sylw i William Pritchard Morgan a’i hynt a’i helynt ym myd gwleidyddiaeth a busnes.