Mae Guto Harri yn dod i Gymru i draddodi darlith ddifyr am ddau gyn-Brif Weinidog Prydain, a Huw Bebb sydd wedi bod yn holi mwy…

Mae David Lloyd George yn ŵr sy’n hollti barn. Caiff ei gofio gan rai fel y dyn wnaeth arwain Prydain i fuddugoliaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn mynd ymlaen i sefydlu’r Wladwriaeth Les, tra bod eraill yn fwy tueddol o gofio ei rôl wrth hollti Iwerddon yn ddwy a’i amryw sgandalau.