Fydd Tywysog newydd Cymru ddim yn mynd i aros i dŷ crand y Teulu Brenhinol yn Sir Gaerfyrddin.

Mae William am fod yn aros mewn gwestai pan fydd o’n dod i’r Prinsipaliti i weld ei bobol, a hynny er mwyn helpu’r economi.

Y tŷ crand brenhinol dan sylw yw Llwynywermod ger Llanymddyfri, ac mae yno dair ystafell wely a 192 acer o goedwigoedd a thir.