Mae canwr opera hoyw o Landudno, sydd wedi teithio’r byd yn perfformio, ar fin rhyddhau albwm o gerddoriaeth glasurol gan feirdd a chyfansoddwyr o’r gymuned LHDTC+.

Rhwystredigaeth ynglŷn â’r diffyg cynrychiolaeth i’r gymuned honno ym myd opera arweiniodd Elgan Llŷr Thomas i recordio’r casgliad.

Ynghyd â cherddoriaeth gan Benjamin Britten, Ruth Gipps, a Michael Tippet, mae Unveiled yn cynnwys darn sydd wedi cael ei gyfansoddi gan y canwr opera ei hun hefyd.