Er mwyn bod yn fudiad cynhwysol go-iawn, mae’r Urdd wedi penderfynu mynd y “filltir ychwanegol” a denu pobol di-Gymraeg a ffoaduriaid i mewn i weithio atyn nhw, a rhoi gwersi Cymraeg iddyn nhw am ddim.

Roedd y mudiad yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth, sy’n cael ei roi ar waith i gefnogi nod y mudiad o ran denu gweithlu amrywiol.