Un peth yw actio’n broffesiynol ar lwyfan am y tro cyntaf, ar ôl newid gyrfa yn eich tri degau. Mater arall yw portreadu un o arwyr cenedl, mewn sioe sy’n teithio’r wlad i gyd.

Dyma sydd wedi digwydd i Leigh Alexandra o Bontarddulais, sy’n actio’r prif gymeriad Jemima Nicholas, arwres brwydr Abergwaun 1797, yn y sioe Jemima gan gwmni Arad Goch, sydd ar daith ar hyn o bryd.