Mae J Selwyn Lloyd, a fu farw yn ddiweddar, yn ‘llawn haeddu cael ei adnabod fel un o lenorion mwyaf ail hanner yr 20fed ganrif,’ yn ôl un o’i edmygwyr…

Drwy gydol yr 1980au a dechrau’r 1990au, byddai gweld clawr sgleiniog ag arno enw’r awdur J Selwyn Lloyd yn ddigon i gyffroi darllenwyr brwd ifanc, yn enwedig bechgyn.