Mae artist o Fôn wedi dangos ei gwaith ym Mharis, Rhufain a Llundain, ac wedi creu lluniau ar gyfer caniau cwrw…

Mynyddoedd ar gefndiroedd trawiadol o liwgar a haniaethol sydd i’w gweld amlaf yng ngwaith un artist o Ynys Môn.

Mae paentiadau Lisa Eurgain, sy’n gweithio fel artist llawn amser o’i stiwdio yn ei hatig yng Nghaernarfon, wedi’u hysbrydoli gan dirweddau Eryri’n bennaf.