Mae’r Urdd wedi ceisio cynnwys pob disgybl yn Sir Gaerfyrddin ym mhasiant y plant eleni – “beth bynnag yw eu gallu”…
Nid pasiant y plant arferol fydd yn Eisteddfod yr Urdd yn nhref Llanymddyfri eleni. Yn hytrach, fe fydd Project 23 – Chwilio’r Chwedl yn sioe bromenâd aml-weddog sydd wedi ceisio cynnwys pob disgybl yn y sir, beth bynnag fo’u dawn perfformio.
Mae hefyd nifer o grwpiau cymunedol wedi bod yn rhan o’r gwaith y tu ôl i’r llenni – o Ferched y Wawr i’r Man Shed yn Nrefach Felindre, a hyd yn oed rhai o droseddwyr ifanc y sir.
Ers blwyddyn mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin gyda disgyblion cynradd ac uwchradd yn cyfrannu drwy waith celf, dawns, cerddoriaeth, ffilm ac actio gydag ymarferwyr proffesiynol.
Yr uchafbwynt fydd perfformiad sy’n ‘glytwaith episodig’ o chwedlau a storïau Sir Gâr mewn arddull ‘promenâd’ ar y Maes, gyda’r gynulleidfa yn symud o gwmpas i chwilio am y chwedlau o lwyfan i lwyfan.
Gweledigaeth y gyn-athrawes ddrama Carys Edwards – sydd wedi gwneud pedair neu bump o sioeau i’r Urdd o’r blaen – yw’r cyfan. Mae hi’n cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Nia Clwyd, a’r Cyfarwyddwr Celf Llinos Jones.
“Yn dilyn Eisteddfod T, ro’n i’n siarad efo Siân Eirian [Cyfarwyddwr yr Eisteddfod], ac roedd hi’n dweud – ‘mae eisio rhywbeth gwahanol’,” meddai Carys Edwards, sydd wedi ymddeol o’i swydd yn dysgu Drama ers 2021. “Rydan ni’n cael sioe gynradd a sioe uwchradd bob blwyddyn, a rhai yn amlwg yn llwyddiannus iawn, rhai ddim.
“Y llynedd mi wnaeth yr Urdd arbrofi efo’r tri llwyfan gwahanol, felly dyma Siân Eirian yn dweud ‘dw i’n rhoi her i ti, meddylia am rywbeth gwahanol’. Mi wnes i feddwl fy mod i eisio cael ryw weledigaeth wahanol a oedd yn cyplysu’r uwchradd a’r cynradd ond hefyd – ac mae hyn yn rhywbeth mawr gen i – ei fod yn rhoi cyfle i bob plentyn, beth bynnag yw eu gallu.”
Does “dim un plentyn” wedi cael ei wrthod, beth bynnag bo’i ddawn, meddai. “Mae yna dros 950 yn rhan o hwn. Yn bwysicach na hynny, mae yna dros 850, bron i 900, wedi ymwneud â gwaith celf o bob math. Dw i’n meddwl bod celf a chanu, llwyfannau ac actio, i gyd yn mynd law yn llaw.
“Yr hyn roeddech chi’n ei gael yn y gorffennol efo’r sioeau yma – os nad ydych chi’n gallu canu ac actio, chewch chi ddim rhan ynddo fo. Deg prif gymeriad a dyna ni. Gallwch chi alw fi’n wirion, ond ro’n i eisio trio rhoi cyfle i fwy o blant.”
Yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo maen nhw’n ymarfer, ac mae’r plant yn dod yno o bellteroedd. “Mae Sir Gâr yn anferth,” meddai. “Mae yna rai’n dod o Lanelli i fod yn rhan o hwn.”
Helfa chwedlau ar y maes
Sylfaen yr holl sioe yw’r 22 chwedl neu stori sy’n ymwneud â Sir Gâr. Yn eu plith mae chwedl Llyn y Fan Fach, hanes brwydr achub pentref Llangyndeyrn, hanes arwyr fel Ray Gravell a Jac ‘Tŷ Isa’, un o arweinwyr Merched Beca a gafodd ei alltudio i Van Diemen’s Land, a chaneuon gwerin fel Hen Fenyw Fach Cydweli.
Bydd y cyfan yn dechrau ym mhabell fawr yr Adlen, lle bydd y côr cynradd yn canu pedair cân wedi eu sgrifennu gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, Catrin Gwyn, a disgyblion Sir Gâr, a’r gerddoriaeth gan Steffan Rhys, Gwilym Williams, Ieuan Wyn, a Richard Vaughan. Mae Sioned Webb wedi cyfansoddi medli o ganeuon ar eu cyfer hefyd.
Ar ôl gwrando ar y côr yn yr Adlen, fe fydd y gynulleidfa yn cael dewis dilyn trywydd pa bynnag chwedlau sydd at eu dant nhw – i’r Arddorfa, y Pafiliwn Gwyrdd, neu at Lwyfan y Cyfrwy. Bydd pum cynhyrchiad yr un yn y mannau hynny, yn cael eu perfformio ddwywaith y dydd.
“Fasech chi byth yn gallu eistedd mewn theatr yn cyflwyno 22 chwedl,” meddai Carys Edwards. “Mae pawb yn mynd i le be bynnag maen nhw eisio. Dy’n nhw ddim yn mynd i weld bob dim, mae o’n fwy fel mynd i ŵyl theatr.
“Ydach chi eisio gweld stori Gwenllian, neu stori dewin Myrddin? Ydach chi eisio gweld rap gan Ysgol Bro Myrddin am beth yw eu barn nhw am Gymru heddiw, ac wedi gweithio efo Izzy Rabey? Efallai eich bod chi eisio mynd i weld stori Gwiber Emlyn, neud stori Llangyndeyrn, neu Ferched Beca…
“Mae’n rhaid ni fod yn hollol filitaraidd yn y ffordd rydan ni’n ei redeg o, achos bydd rhaid i bob cynhyrchiad ddechrau ar yr un pryd ym mhob un llwyfan.”
Bydd pawb yn dod yn eu holau wedyn i’r Adlen ar y diwedd, tua 4.15pm, i gyd-ganu ‘Anthem Sir Gâr’ sydd wedi ei sgrifennu gan y beirdd Tudur Dylan a Mererid Hopwood, a’i chyfansoddi gan Steffan Rhys. “Rydan ni’n gobeithio y bydd hi’n anthem i’n sir ni ar ôl yr Eisteddfod,” meddai Carys Edwards. “Bydd 900 o blant yn dod i ganu hon.”
Awduron ifanc lleol
Pobol ifanc Sir Gâr – rhwng 20 a 35 oed – sydd wedi sgriptio’r sioeau 10 munud ar y chwedlau.
“Maen nhw i gyd yn bobol ifanc sydd wedi ennill yn Steddfod yr Urdd yn y gorffennol, neu oedd wedi cael profiadau yn yr Urdd ac a oedd yn awyddus wedyn i roi rhywbeth yn ôl,” meddai Carys Edwards.
Er enghraifft, Martha Ifan, a ddaeth yn drydydd am y Fedal Ddrama y llynedd, yw awdur stori ‘Gwenllian’, ac Ilan Lloyd Williams sydd wedi gwneud stori ar ‘Wiber Emlyn’. “Mi wnes i ofyn iddyn nhw roi gogwydd ifanc ar y chwedl,” meddai. “Nid yw stori Gwiber Emlyn yn union fel y mae hi yn y chwedl – mae ganddi ogwydd mwy modern.”
Yr awdur Fflur Dafydd sydd wedi sgrifennu sioe chwedl ‘Llyn y Fan’; a Delyth Evans yw awdur y sgript am wrthryfel Merched Beca, darn sy’n cymharu brwydr Beca gydag ymgyrchoedd pobol ifanc dros hawliau a chyfiawnder. “Felly mae hwnna’n dod â ni’n ôl i heddiw,” meddai Carys Edwards.
Mared Roberts yw awdur sgript am y diwydiant gwlân yn Nrefach Felindre, gan ei foderneiddio i sôn am barchu hawliau gweithwyr ffatri.
Yn hytrach nag olrhain stori wreiddiol y dewin Myrddin yn ei ddarn ‘Deffro’r Dewin’, mae’r dramodydd Hefin Robinson wedi ceisio mynegi bod hud y dewin i’w gael ynom i gyd heddiw, ac mai’r cwbl sydd eisiau yw parchu’n gilydd. “Mae ychydig o wersi yn honno,” meddai’r cyfarwyddwr.
“Mae yna lot o negeseuon bach sy’n berthnasol i fywyd heddiw, a’r bobol ifanc sydd wedi eu sgrifennu nhw.”
Merched y Wawr a throseddwyr ifanc
Un o’r pethau pwysicaf i Carys Edwards oedd sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i elwa ar weithgareddau’r Urdd, i gadw’n driw at y syniad o ‘Urdd i bawb’.
Bu’r hyfforddwyr Izzy Rabey, Owain Gwynne, Anna ap Robert ac Osian Meilir yn creu gwaith rap, dawns a symud gyda phlant y sir, a Karen McRobbie, Mared Davies, Kate Glanville, Rhys Padarn a Karm Lloyd Roberts yn creu gwaith celf gyda nifer o’r ysgolion.
“Mae yn gynhwysol – does neb wedi cael ei wrthod,” meddai Carys Edwards. “Roeddwn i eisiau creu project oedd yn cynnig rhywbeth i bawb.”
Mae bron i 900 o blant wedi bod yn rhan o’r gweithdai celf.
Maen nhw wedi bod yn gweithio ar feinciau picnic yn seiliedig ar y chwedlau. Cafodd Carys Edwards y syniad o fynd at y Sied Dynion yn Nrefach Felindre, menter lesol sy’n galluogi dynion i gwrdd i wneud gwaith llaw a chymdeithasu, a gofyn iddyn nhw wneud meinciau ar gyfer y cynllun.
“Ro’n i eisie cael meinciau a fyddai’n gadael gwaddol ar ôl yn y sir,” meddai. “Maen nhw wedi gwneud y meinciau yma am ddim. Mi gawson nhw nawdd gan ryw bedwar neu bum cwmni adeiladu i roi’r pren i gyd am ddim. Rydach chi’n sôn am dros £1,000 o leiaf. Maen nhw hefyd wedi gwneud cleddyfau i fi ar gyfer stori Gwenllian. Maen nhw wedi bod yn fendigedig.”
Fe gafodd hi hefyd rai o droseddwyr ifanc y sir yn rhan o’r project, i baentio’r meinciau picnic gyda Karen McRobbie mewn gweithdai wythnosol.
“Maen nhw wrthi’n paentio pethau oedd yn bwysig iddyn nhw – fel Cymru a phêl-droed, ac ‘Yma o Hyd’,” meddai Carys Edwards. “Bydd yr holl waith celf yma yn dod i’r maes. Maen nhw wedi eu boddhau. Dydyn nhw ddim yn gallu credu eu bod nhw’n cael y fath gyfle.”
Gofynnodd i’r bardd lleol Tudur Dylan Jones wneud cwpledi bach i fynd ar y meinciau gyda help disgyblion Ysgol y Strade.
Wedyn mae aelodau Merched y Wawr mewn gwahanol lefydd wedi bod yn gweu gyda’r plant a’r bobol ifanc. “Maen nhw wedi bod yn gweu sgarffiau a goncs Mistar Urdd i harddu’r Maes,” meddai. “Nid yn unig bod y plant yn siarad efo bobol hŷn, mae iaith yn cael ei fodelu, maen nhw’n dysgu gweu.”
Er mwyn cynnwys disgyblion o ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf, yn Llanelli yn bennaf, gofynnodd i athrawon cerdd deithiol weithio gyda’r plant ar y gân ‘Sosban Fach’. “Maen nhw’n wrthi ar hyn o bryd yn creu,” meddai Carys Edwards, “yn canu geiriau ‘Sosban Fach’, ac yn defnyddio sosbenni o bob math.”
Help llaw gan hen ffrindiau
Gan fod y cynllun yn un mor helaeth, mae Carys Edwards wedi cael cymorth gan gyn-athrawon a chyfeillion o’r ysgolion y bu’n dysgu ynddyn nhw.
Mae pedwar athro a phennaeth yr oedd hi’n adnabod o’r byd dysgu yn rheolwyr project, yn helpu gyda’r cannoedd o e-byst sydd ynghlwm â’r gwaith. Cyfaill arall sydd wedi helpu yw’r cerddor Neil Rosser, a oedd yn dysgu gyda Carys yn Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae e wedi recordio trac am Jac Tŷ Isa gyda’i grŵp Pwdin Reis, ac wedi dod i ganolfan yr Egin i recordio’r gân gyda rhai o blant unedau anghenion arbennig y sir.
“Mae cerddoriaeth mor bwysig i blant ag anghenion,” meddai Carys Edwards. “Pan o’n i’n dysgu ym Maes y Gwendraeth, roedd ganddon ni uned plant arbennig. Bob sioe roedd yr ysgol yn ei wneud, roedden nhw’n cael bod yn rhan ohono fo.
“Dw i wir yn credu mewn rhoi cyfle i bawb. Mae hynny’n dod o fod yn athrawes ddrama ac yn cymhwyso pawb i wneud bob dim. Mae drama’n datblygu sgiliau mewn plant sydd eu hangen mewn bywyd.
“I mi mae’r daith at y perfformiad yn bwysicach o lawer bron na’r perfformiad. Mae’r profiadau mae’r bobol ifanc yma wedi eu cael hyd at yr Eisteddfod yn bwysig ofnadwy.”
- Bydd perfformiad Project 23: Chwilio’r Chwedl yn digwydd ar Faes yr Urdd y dydd Sul cyntaf, 28 Mai