Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Angels with Dirty Faces: The Footballing History of Argentina (2016) gan Jonathan Wilson.  Roedd Dad yn andros o foi pêl-droed, ac ers pan dw i’n cofio mae’r gêm (ei gwylio, nid ei chwarae yn anffodus!) wedi bod yn bwysig i mi. Wedi f’ysbrydoli gan Messi, mi ddechreuais i ddarllen Angels with Dirty Faces adeg Cwpan y Byd y dynion llynedd (mae o’n llyfr trwchus… Dyna fy esgus am gymryd cyhyd!).