O’r tywysogion brodorol i wreiddiau’r Eisteddfod Genedlaethol, mae cyfrol newydd ar rai o gestyll y wlad yn gipolwg ar fil o flynyddoedd yn hanes Cymru.

Bymtheg mlynedd ers gweithio ar lyfr lluniau Castles of Wales, cafodd y cyn-newyddiadurwr Rhodri Owen wahoddiad i greu fersiwn newydd o’r llyfr. Y tro hwn, roedd gofyn iddo sgrifennu ychydig mwy am y 37 castell dan sylw.