Fe gafodd y ffotograffydd 34 oed ei fagu ar fferm Nant ym Mynytho ym Mhen Llŷn, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn tynnu lluniau rhai o wyliau cerddorol mwyaf Cymru.
A phan nad yw ar grwydr gyda’i gamera, mae yn chwarae’r dryms i’r band priodas The Swing…
Pryd wnaethoch chi ddechrau tynnu lluniau?
Pan o’n i’n tua 14 oed, aeth fy nhad a fy mrawd i siop Dewi Wyn ym Mhwllheli a phrynu camera ffilm ar gyfer fy mrawd. Wnes i bigo fo fyny a dydw i ddim yn cofio tynnu’r lluniau cyntaf, ond dw i’n cofio caru gwneud.
Dw i’n cofio taid yn dysgu’r rule of thirds ac unwaith wnes i glicio efo hwnnw, ro’n i awê wedyn. Roedd Nan yn tynnu lluniau bob dim ac mae Mam hefyd. Ond ro’n i fwy fel Dad – yn fwy creadigol efo fo – felly doeddwn i ddim wir yn tynnu lluniau pawb mewn partïon teulu, ond close-ups obscure.
Wedyn wnes i brofiad gwaith efo Dewi Wyn, y ffotograffydd, a dysgu sut i ddatblygu lluniau.
Es i wedyn ymlaen i astudio Cynhyrchu Cyfryngol ym Mhrifysgol De Cymru gan ganolbwyntio ar ffotograffiaeth.
Sut brofiad oedd mynd ar y môr a chael eich cyflogi i dynnu lluniau ar longau am ddwy flynedd ar ôl graddio?
Wnes i hedfan yn wreiddiol i Singapore a wnaethon ni [deithio] de ddwyrain Asia i gyd. Wedyn draw i Alaska am chwe mis cyn mynd lawr i wneud Califfornia, Hawaii a Mecsico am ryw dri mis. Y flwyddyn wedyn wnes i wneud y Gwledydd Baltig i gyd, cyn mynd lawr i wneud y Mediterranean i gyd.
Mae o’r peth gorau dw i erioed wedi gwneud, heb os! Wnaeth o ddysgu fi sut i dynnu lluniau’n sydyn, sut i ddelio efo pobol oedd yn gallu bod yn lletchwith a pheidio colli fy mhen, sut i siarad efo cwsmeriaid a sut i werthu. Roedd o’n anhygoel cael deffro mewn gwlad wahanol bob bore hefyd.
Wnaeth o wneud fi’n well ffotograffydd, ond yn bendant yn well person. Dw i’n teimlo bod trafeilio yn helpu chdi i fod ychydig bach mwy empathetic i bobol eraill, ac yn enwedig pobol o ddiwylliannau gwahanol sy’n gwneud stwff mewn ffyrdd gwahanol.
Oedd hi’n anodd cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau tra ar y fordaith fawr?
Doedd gen ti ddim Wi-Fi sydyn ar y llongau pryd hynny, felly doeddwn i ddim wir yn gallu cadw mewn cysylltiad yn dda. Ro’n i’n e-bostio mam – a oedd yn poeni bob nos – unwaith yr wythnos, efallai. Yn y flwyddyn gyntaf gaethon ni sgwrs dros Facetime unwaith dw i’n meddwl.
Yn 2012 wnes i golli’r Eisteddfod am y tro cyntaf, a dw i’n cofio meddwl bod hynna’n big deal. Wnes i fethu’r Gemau Olympaidd yn Llundain i gyd, a dw i dal hyd heddiw heb weld unrhyw glip ohonyn nhw a dw i ddim callach be ddigwyddodd.
Pam aethoch chi’n ffotograffydd llawrydd a sefydlu’r cwmni ffotoNant?
Trio ffeindio gwaith i setlo yn ôl yng Nghaerdydd oeddwn i, ond methu gweld dim byd. Felly, wnes i feddwl: ‘Bugger it! Dw i’n mynd yn llawrydd.’
Ro’n i ond yn bwriadu gweithio’n llawrydd am ryw chwe mis, ond pedair blynedd yn ddiweddarach, dw i dal i weithio efo’r camerâu. Yr haf gyntaf es i ar ôl cleientiaid fyswn i’n licio gweithio efo, a dweud fy mod i ar gael. Ro’n i jest eisiau gweithio a dysgu, er fy mod i’n poeni braidd am faint o waith fysa’n dod mewn. Dw i’n non-stop rŵan… Gormod o waith, os rhywbeth!
Pryd wnaethoch chi gychwyn taro’r dryms?
Wnes i ddechrau pan oeddwn i’n tua wyth oed. Ges i git hand-me-down oedd wedi bod trwy sawl tŷ ym Mhen Llŷn i ddrymars ifanc.
Roeddwn i’n chwarae caneuon ar headphones drosodd a drosodd a dysgu sut i chwarae fel yna, yn gwrando ar albyms jazz Dad, Edward H Dafis a Big Leaves, a llwyth o fandiau pync.
Y band cyntaf ro’n i’n rhan ohono oedd band jazz efo criw yn yr ysgol ac wedyn BOB efo fy nghefnder, cyfnither a ffrind gorau – band pync swnllyd.
Wedyn wnes i chwarae efo Sibrydion a hefyd llenwi mewn i The Peth am ambell gig fyd.
Y gigs mwyaf cofiadwy ydi rhai cynnar BOB lle roedden ni’n byddaru pawb, ond roedd yna griw bach yn mwynhau a dyna oedd yn bwysig i fi.
Wedyn Tân y Ddraig [yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor] efo Sibrydion – roedd yn grêt cael chwarae ar lwyfan mawr.
Roedd chwarae efo The Peth yn cefnogi Oasis yn Stadiwm y Mileniwm yn brofiad reit cŵl.
Sut ddaethoch chi’n rhan o’r band The Swing?
Roedd dau o fy ffrindiau yn chwarae i’r band ond wedi gorfod tynnu yn ôl gan fod ganddyn nhw blant a chyfrifoldebau eraill. Felly, wnes i feddwl bod o’n swnio fel ychydig bach o laff a chymryd lle un ohonyn nhw ar y dryms, ac rydan ni’n chwarae mewn llwyth o briodasau gwahanol.
Mae o’n newid bach neis o fod tu ôl i gamera ac yn gyfle i gael switch off i chwarae set neu ddwy a dysgu caneuon newydd.
Beth yw eich ofn mwya’?
Marw, achos mae bywyd yn rhy dda. Dw i’n deall pam bod pobol yn coelio mewn Duw a’r nefoedd, achos mae’n rhywbeth mor anodd i orfod dod i ddeall a delio efo.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Seiclo, dringo, mynd i’r gym pan mae gen i’r amynedd, a chwarae pêl-droed. Fyswn i’n gallu chwarae pêl-droed pump-bob-ochr bob nos. Ti’n cael gweld pobol, rhedeg o gwmpas a thrio gwella.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol anystyriol a phobol anwybodus. Mae yna gymaint o lefelau gwahanol i hynny. Ar un lefel, pan dydy pobol ddim yn ddigon ystyriol ac empathetic i be mae pobol eraill yn mynd trwy. Ond ar lefel arall, pobol sy’n anystyriol wrth ddreifio. Dw i’n dreifio tua 35,000 milltir y flwyddyn, ac mae gyrwyr anystyriol yn gwylltio fi. Dw i’n gwybod bod yna ddim pwynt gwylltio, ond pan ti’n dreifio gymaint ag ydw i, ti jest eisiau cyrraedd adref.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Bob Mortimer, Jürgen Klopp ac Emma Stone.
Fyswn i’n gallu gwrando ar Bob Mortimer yn siarad trwy’r dydd ac mae’r rhaglen Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing yn anhygoel. Mae o’n donig llwyr a fyswn i’n argymell i bawb wylio hwnna. Fyswn i’n caru bod yn ei gwmni o achos mae o’n berson mor bositif a dw i’n licio pobol positif.
Mae Jürgen Klopp yn berson cydwybodol iawn ac yn deall pobol, ac yn amlwg fysa ni’n gallu trafod pêl-droed.
Emma Stone ydi hoff actores fi a dw i’n meddwl bysa hi’n rhoi cydbwysedd gwych i Bob a Jürgen. Ac mae yna siawns bach mai hi ydi fy celebrity crush.Fyswn i’n cael mam i goginio achos bwyd mam ydi’r gorau, felly Cinio Dydd Sul i’w fwyta.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Gan hogan o’r Iseldiroedd oedd yn gweithio ar y llongau. Dw i’n cofio bod yn eithaf naïve yn mynd ar y llongau a ddim yn gwybod sut i siarad efo genod… Dw i dal ddim wir yn gwybod sut i siarad efo genod. Ond aethon ni allan i far yn Norwy rhyw noson a dw i’n cofio trio meddwl am y peth iawn i’w ddweud ar y ffordd yn ôl i’r llong, ond wnaeth hi ddweud: ‘Stop talking,’ cyn rhoi sws i fi.
Does yna ddim siawns bydd hi’n darllen hwn felly ga i ddweud hynna.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Dw i ddim yn siŵr pa air dw i’n gorddefnyddio, ond gair dw i angen dysgu defnyddio ydi ‘na’. Dw i’n ychydig bach o Yes Man.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Dydw i ddim yn teimlo embaras yn aml iawn, ond un tro wnes i deimlo ychydig bach o embaras oedd ar stag do ffrind ym Mhortiwgal y llynedd. Roedd yna thema gwisg ffansi munud olaf, sef reslwyr o’r 1980au. Doeddwn i a chwpl o rai eraill heb brynu dim ac wedi mynd allan i’r siopau yna i ffeindio gwisgoedd. Wnaethon ni brynu pethau ridiculous. Wnes i wisgo crys-T wedi’i orchuddio efo secwinau, siorts nofio melyn llachar a rhyw het a sgarff. Aethon ni lawr at yr hogiau eraill ac roedden nhw’n crio chwerthin arnom ni.
Parti gorau i chi fwynhau?
Mae yna ddau i ddweud y gwir… Y parti cyntaf gaethon ni pan oedden ni yng Ngholeg Pwllheli ar ôl i’n sioe gerdd ni orffen. Wnaethon ni benderfynu cael parti yn annex Mam a dad ar y fferm. Doedd yna ddim llawer o le ac roedd yna ddwsinau yn troi fyny mewn tacsis. Wnes i gyfarfod fy nghariad cyntaf yn y parti felly dw i’n cofio meddwl: ‘Roedd o i gyd werth o’.
Y parti arall oedd parti Calan Gaeaf gaethon ni yn ein tŷ ni yn y brifysgol. Wnaethon ni roi bagiau bin dros bob un arwyneb dros y tŷ i gyd. Wnaeth o gymryd tua phythefnos i orffen. Roedd gennym ni oleuadau LED a speakers ar y waliau. Roedd o’n un o’r partis roedd pobol yn trafod am fisoedd wedyn, ac roedd o mor satisfying cynllunio’r parti a’i fod o’n troi allan i fod y parti gorau erioed.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Bo fi ddim yn 21 ddim mwy. Mae yna gân ro’n i’n gwrando ar lot – ‘Everyone’s Free (To Wear Sunscreen)’ gan Baz Luhrmann. Dw i’n argymell unrhyw un sydd dal yn eu hugeiniau i wrando ar y gân yma i sylweddoli pa mor lwcus ydyn nhw. Mae amser yn dal fyny efo chdi mor sydyn ac maen nhw angen rhybuddio chdi pan ti yn dy ugeiniau cynnar. Fydda i yn 35 oed haf yma, ond yn fy mhen dw i dal yn 21.
Hoff ddiod feddwol?
Does yna ddim lot sy’n gallu curo peint oer o gwrw ar ôl diwrnod hir o waith – y righteous pint.
Ond fel arall, spiced rum Old J.Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Dw i’n lyfio crime fiction ac yn ddigywilydd yn lyfio llyfrau yn steil James Bond am ysbïwyr. Mae I Am Pilgrim gan Terry Hayes yn anhygoel.
Hoff air?
Hitia befo.
Hoff albwm?
For Emma, Forever Ago gan Bon Iver. Dim ots be ddaw allan rhwng rŵan a phan wna i farw, fydd o’n anodd iawn curo hwnna.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Ges i brofiad agos at farwolaeth yn ystod y cyfnod clo. Damwain ar y fferm oedd o a wnaeth scoop oddi ar y digger ddisgyn o tua pedwar neu bump medr o’r awyr a glanio ar fy mhen i. Rhywsut, efo’r ffordd wnaeth o lanio a’r ongl wnaeth o ddisgyn a tharo fy mhen i, wnaeth o roi clec i dop fy mhenglog ar y darn caletaf. Roedd hyn yn ystod dechrau’r cyfnod clo pan doedd ysbytai ddim rili’n derbyn achosion oedd ddim yn ymwneud efo Covid, felly diolch byth roedd Mam yn adnabod bydwraig oedd yn gallu gwneud yn siŵr fy mod i’n oce. Wnes i hefyd decstio cefnder fi oedd yn ddoctor a wnaeth o ddweud: “Mae’r ffaith bo chdi’n defnyddio to bach yn dy negeseuon yn awgrymu bo chdi’n oce.”