Mi fydd cyfle i weld rhai o geffylau blaen y Sîn Roc Gymraeg ar benwythnos ola’r Eisteddfod yn Llanymddyfri, ac ambell fand newydd hefyd…
Y llynedd roedd yr Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant, a rhan fawr o’r dathliadau oedd Gŵyl Triban, sef yr ‘ŵyl o fewn gŵyl’ oedd yn cynnwys ceffylau blaen y Sîn Roc Gymraeg yn canu ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Ac wedi llwyddiant Gŵyl Triban yn Ninbych, mae’r ŵyl yn dychwelyd eleni a bydd llu o artistiaid i’w gweld a’u mwynhau ar benwythnos olaf yr Eisteddfod yn Llanymddyfri.
Cynhaliwyd yr ŵyl ar dri safle gwahanol ar y Maes y llynedd, ac yn ôl yr Urdd roedd 56,013 o ymwelwyr yng Ngŵyl Triban wrth i 37 o fandiau berfformio dros dridiau.
Eleni yn Llanymddyfri bydd yr ŵyl wedi’i gwasgaru tros ddau ddiwrnod ar benwythnos ola’r brifwyl – dydd Gwener (2 Mehefin) a dydd Sadwrn (3 Mehefin).
Y band indi roc o Gaerfyrddin, Adwaith, fydd yn cloi’r nos Wener, a Dafydd Iwan a’r Band fydd yn diddanu’r teulu oll ar y nos Sadwrn. Ond mae’r lein-yp yn cynnwys dwsinau o enwau adnabyddus eraill megis Meinir Gwilym, Welsh Whisperer a Morgan Elwy.
Ac yn o gystal â rhoi llwyfan i eiconau fel Dafydd Iwan, mae’r Urdd hefyd yn awyddus i roi cyfle i dalentau sy’n fwy newydd i’r Sîn. Un band sy’n weddol newydd ond eisoes wedi gigio gyda Dafydd Iwan yw Dadleoli.
Efan Williams yw prif leisydd y band, gyda Jake Collins ar y piano, Jac Cordery ar y bas, Tom Spivey ar y gitâr, a Caleb Griffiths ar y drymiau. Daeth yr hogiau o Gaerdydd at ei gilydd yn wreiddiol drwy ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl 2022, sef project sy’n rhoi bandiau at ei gilydd ac yn eu mentora, cyn rhoi llwyfan iddyn nhw chwarae yng Nghlwb Ifor Bach ac Yurt Tafwyl. Y cerddor Mei Gwynedd fu yn mentora’r band ac maen nhw bellach wedi eu harwyddo ar ei label, Recordiau Jigcal.
“Mae cyfleoedd ar ôl bod yn rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno’,” eglura Efan.
“Wnaethon ni berfformio ym Mhenarth mewn gig efo Dafydd Iwan – roedd e’n brofiad anhygoel!
“Ni oedd hefyd yn cefnogi Candelas yng Nghlwb Canna yn ôl ym mis Mawrth.
“Rydyn ni wedi bod yn rili lwcus i gael llwyth o gyfleoedd.”
Bu’r band yn perfformio ar Noson Lawen S4C ym mis Mawrth, ac fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Cefnogi Cymru’, yn ôl ym mis Tachwedd ar drothwy Cwpan y Byd 2022. Mae’r band cyfan yn gefnogwyr ifanc ond brwd iawn o dîm Cymru, felly cam naturiol oedd sgrifennu cân ar gyfer y daith i Qatar.
“Mae ‘Cefnogi Cymru’ wedi cael dros 2,500 o ffrydiau hyd yn hyn, felly ryden ni’n rili hapus efo sut mae popeth yn mynd,” meddai Efan.
“Mae llwyth o gyfleoedd yn dod trwy bethau fel [gŵyliau] Tafwyl a Triban – ryden ni’n teimlo’n rili da am sut mae pethau’n datblygu.”
Bydd Dadleoli yn rhyddhau eu EP cyntaf cyn bo hir ond mae nhw mewn cyfnod o ddatblygu eu sŵn ar hyn o bryd, meddai Efan.
“Mae gennym ni dâst cerddorol hollol wahanol i’n gilydd, ac fel band newydd ryden ni’n darganfod steil ein hunain, ond ar yr EP yma ni’n mwynhau perfformio a sgrifennu steiliau ychydig yn wahanol.
“Ond gobeithio erbyn blwyddyn nesaf byddwn ni wedi ffeindio ein steil ac yn sgrifennu mwy i’r steil penodol yna.
“Ryden ni’n gobeithio cael yr EP allan cyn Tafwyl a bydd rhyw bedair cân arno fe.
“Os dewch chi i Ŵyl Triban, fe gewch chi glywed y caneuon fydd ar ein EP!”
Mi fydd Dadleoli yn chwarae yng Ngŵyl Triban ar y dydd Gwener gydag Adwaith, Fleur de Lys a Morgan Elwy.
“Mae enwau mawr iawn yn perfformio ar yr un noson â ni, felly ryden ni’n teimlo’n hynod o freintiedig o’r cyfle i berfformio.
“Ryden ni jest yn edrych ymlaen nawr.
“Mae gennym ni rai ymarferion wedi eu trefnu, ond mae hi’n anodd gan fod dau efo arholiadau chweched ac wedyn fi efo arholiadau TGAU, felly mae hi’n gyfnod prysur.”
Pwy mae Dadleoli’n edrych ymlaen fwyaf at weld yn perfformio yn yr ŵyl?
“Dafydd Iwan, siŵr o fod,” meddai Efan.
“Wnaethon ni ddim cael y cyfle’n iawn i wylio fe pan oedden ni’n perfformio gyda fe, felly fi’n edrych ymlaen i’w weld e.”
Mali Hâf yn ôl ar y Maes
Un a fu yn perfformio yn yr ŵyl y llynedd ac sy’n dychwelyd eleni i’r Maes yn Llanymddyfri yw’r gantores o Gaerdydd, Mali Hâf.
Ers 2021 mae Mali wedi bod yn gwneud enw i’w hun yn y sîn, ond mae hi bellach yn gweithio at grefftio sain newydd. Ac fe fydd Gŵyl Triban yn gyfle iddi ddatgelu ei sain newydd, meddai.
“Rydw i’n gweithio at symud at sain fwy electronig gyda fy sengl nesaf,” meddai Mali.
“Fi’n credu mae cerddoriaeth fi’n mynd mwy tuag at fod yn Mali Hâf, pwy bynnag yw hi.
“Ond mae’n dechrau datblygu mewn i sain fi.
“Rydw i mor gyffrous i ddod â fe mas, a fi’n gobeithio bydd pobol yn hoffi’r cyfeiriad dw i eisiau mynd.
“Rydw i wedi rili joio gweithio ar set newydd a gobeithio bydd Gŵyl Triban yn joio fe!”
Daw’r newid cyfeiriad ar ôl rhyddhau ei EP cyntaf, Mali Hâf, ym mis Tachwedd y llynedd.
“Wnaeth pobol hoffi e ac mae e wedi cael ei chwarae yn eithaf aml, ond doedd y caneuon yna ddim cweit be ro’n i eisiau dod mas gyda.
“Rydw i’n meddwl fi’n barod i newid sain fi, a gyda’r EP nesaf mae’r sain yn dechrau datblygu mwy i be fi eisiau swnio fel…
“Wnes i berfformio yng Ngŵyl Triban y llynedd gydag ychydig mwy o fand pryd hynny…
“Mae llai ohonom ni nawr oherwydd bod y sain wedi newid.
“Wnaethon ni rili joio tro diwethaf a dyna pam fi wedi cytuno i wneud e eto.
“Rydw i’n rili edrych ymlaen i wneud e eto, a’r peth da am gigio a’r Eisteddfod ydy eich bod chi’n gallu gweld llefydd yng Nghymru bydde ti ddim fel arfer.”
Bydd Mali yn perfformio ar y dydd Gwener.
Caneuon newydd gan Gwilym
Bu rhaid i’r band poblogaidd Gwilym dynnu allan o’r ŵyl y llynedd, ond maen nhw’n edrych ymlaen i berfformio eleni, a chwarae ambell gân newydd.
Rhyddhaodd y band sengl newydd ar ddechrau mis Mai, sef ‘IB3Y’, sy’n sefyll am “It’s Been 3 Years”. Roedd hi’n gân ddaeth yn gyflym ac allan o unman.
“Fel arfer, rydan ni’n mynd i’r stiwdio efo demo mewn meddwl, ond y diwrnod yna wnaethon ni droi fyny efo dim byd,” meddai Rhys Grail, gitarydd Gwilym.
“Felly, wnaethon ni jest dechrau sgrifennu a smasho’r gân allan mewn diwrnod.”
Ac mae yna rwystredigaeth wrth wraidd ‘IB3Y’ yn ôl Ifan Pritchard, prif leisydd y band.
“Mae’r gân yn trio cael gwared o unrhyw rwystredigaethau ro’n i’n teimlo ar ôl y cyfnod Covid.
“Roedd o’n amser rili dryslyd i fi, yn gyffredinol, ac roedd yr holl beth bach yn llethol.
“Ro’n i eisiau cân ar yr albwm oedd yn cyfleu hynny.
“Wnes i ffeindio fo’n amser rhwystredig uffernol a ro’n i’n teimlo fel bod yna tair blynedd wedi mynd heibio ers gweld y fersiwn gorau o fy hun – dyna pam ‘IB3Y’ ydy ei enw o.
“Ro’n i wedi gorfod gadael y coleg yn gynnar a dod adref, ac yn amlwg i ni fel band, doedden ni methu chwarae gigs – lle rydan ni fwyaf cyfforddus.
“Ro’n i jest yn trio sgrechian y rhwystredigaethau hynny allan ar y gân yma.”
Pwrpas y sengl ydy cyhoeddi fod hanner cyntaf eu halbwm newydd ar fin cael ei rhyddhau. Bydd ‘rhan un’ yn cael ei ollwng i’r byd fel EP sy’n cynnwys chwe trac oddi ar yr albwm. Yna, fydd ail hanner yr albwm yn gweld golau dydd nes ymlaen tuag at ganol yr haf.
“Mae o bach yn rhyfedd achos mae o’n two-parter gennym ni,” meddai Rhys Grail.
“Mae o’n albwm eithaf sylweddol felly dydyn ni ddim eisiau rhoi fo i gyd allan i bobol mor fuan â hynny.
Ychwanega Ifan: “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol ac ella cyfleu albwm mewn ffordd sydd heb gael ei wneud gymaint yn y Sîn.
“Mae o hefyd yn rhoi’r cyfle i ni ddefnyddio Rhys [Grail], sydd mor greadigol yn ei waith fel ffotograffydd a dylunydd, i wneud mwy o waith celf ar ein cyfer, achos rydan ni wastad wedi bod yn fand eithaf gweledol.”
Er y bydd sŵn craidd Gwilym yma i aros ar yr albwm nesaf, mae’r band wedi esblygu rhywfaint.
“Mae o definitely yn sŵn lot fwy aeddfed a chŵl,” meddai Rhys.
“Roedden ni dal yn yr ysgol tra roedden ni’n sgrifennu’r albwm gyntaf, felly mae dylanwadau ni wedi newid yn hollol.
“Mae o dal yn rili poppy, bachog a chofiadwy efo’r melodïau, ond lot fwy aeddfed – like an aged wine.”
Bydd Gwilym yn perfformio yng Ngŵyl Triban ar y nos Sadwrn, ynghyd ag Eädyth, Elis Derby a Tara Bandito.
“Fydd hi’n neis gallu chwarae tro yma,” meddai Rhys.
“Dydan ni heb chwarae lot ers tipyn, ond roedd gennym ni gig gyntaf yr haf yng Nghrymych ychydig o wythnosau yn ôl.
“Roedd hi’n neis mynd yn ôl i swing pethau.
“Byddwn ni’n cyflwyno ambell gân newydd yn y set, felly fydd hi’n neis cael addasu’r set dros yr haf.”
A phwy mae Rhys yn edrych ymlaen i’w gwylio fwyaf yn yr ŵyl?
“Dw i bob tro’n edrych ymlaen i weld Mellt – maen nhw jest yn solid a dw i’n rili edrych ymlaen i glywed stwff newydd nhw.
“Mae N’Famady Kouyate bob tro’n dda hefyd.
“Mae’n neis gweld rhywbeth gwahanol yn y gŵyliau yma.”