Ar derfyn cân werin-trans-bibgornyddol hollol wych o’r enw ‘Ffair y Bala’, mae Bob Delyn a’r Ebillion yn canu ‘Nid y dillad sy’n gwneud y dyn’.

I’r un perwyl, mae George Michael i’w glywed yn canu ‘Sometimes the clothes do not make the man’ ar ei fega-hit ‘Freedom! 90’.

Ond nid pawb sy’n cytuno, a daeth hynny i’r amlwg ar benwythnos y Coroni wrth i Brif Weinidog Cymru dderbyn sawl swadan am wisgo siwt nad oedd – yn ôl y beirniaid – yn ffit ar gyfer Coroniad.