Mae athro ysgol gynradd yn Llundain wrth ei fodd gyda thîm pêl-droed Cymru a cherddoriaeth hip-hop, ac wedi troi ei law at sgrifennu llyfrau plant yn ddiweddar.

Wedi ei fagu yn Abertawe, mae Darren Chetty wedi bod yn dysgu mewn ysgolion cynradd yn Llundain ers diwedd y 1990au.

Erbyn hyn, mae ar fin cwblhau doethuriaeth yn edrych ar ‘Athroniaeth i Blant’, syniad sy’n annog yr ifanc i ystyried syniadau athronyddol.