Mae’r diddanwr 40 oed wedi actio yn Pobol y Cwm a Parch, ac ar hyn o bryd yn Rownd a Rownd. Fe gychwynnodd ei yrfa yn actio ‘Fferet’ yn Darn o Dir, y ddrama deledu wych am griw o bobl ifanc yng nghefn gwlad Sir Benfro a enillodd BAFTA yn 2003.