Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor i wraig sy’n poeni bod ymddygiad ei chwaer yn mynd dros ben llestri…

Annwyl Rhian 

Mae fy chwaer wastad wedi mwynhau fflyrtio. Pan oedden ni yn ein harddegau, hi fyddai’n cael y ddawns ola’ a’r gusan ar y ffordd adre bob tro, tra mod i’n gorfod bodloni efo cherdded adref ar ben fy hun. Pan oeddwn i yn y brifysgol ac wedi magu ychydig mwy o hyder nes i gwrdd â dyn hyfryd – golygus, peniog, uchelgeisiol. Pan wnaethon ni ddyweddïo roedd fy chwaer wedi ei gwneud yn reit glir ei bod hi’n genfigennus ac mae hi wedi treulio’r wyth mlynedd ddiwethaf yn trio tanseilio fi o flaen fy ngŵr a fflyrtio efo fo.

Hyd yn ddiweddar, ro’n i’n credu ei fod o’n meddwl bod yr holl beth yn dipyn o jôc. Ond dw i wedi gweld nhw gyda’i gilydd dros y misoedd diwethaf ac yn synhwyro bod yna agosatrwydd yna sydd wedi gwneud i fi deimlo’n anghyfforddus. Tua mis yn ôl, wnes i ddigwydd gweld llwyth o negeseuon gan fy chwaer ar ei ffôn. Dw i wedi gofyn i’r ddau – ar wahân – os oes rhywbeth yn mynd ymlaen ond maen nhw wedi gwadu bob dim. Roedd y ddau wedi chwerthin a dweud wrtha’i am beidio bod mor ‘paranoid’. Dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf…

Dw i’n falch eich bod chi wedi cysylltu ac yn amlwg am wneud rhywbeth ynglŷn ag ymddygiad eich chwaer a’ch gŵr, achos dw i ddim yn credu y dylia chi jest anwybyddu hyn. Tydw i ddim yn dweud hyn achos fy mod i’n credu eu bod yn cael affêr – does gen i ddim modd i wybod hynny – ond yn hytrach achos fod y ddau wedi diystyru eich pryderon ac wedi chwerthin a galw chi yn ‘paranoid’. Dydy hynna ddim yn neis, fel fyddai fy mam yn ddweud, ac maen nhw’n ymddwyn yn amharchus tuag atoch chi. Mae fel petaen nhw’n ceisio cyfiawnhau eu hymddygiad drwy wneud i chi deimlo mai chi sydd yn bod yn wirion. Mae’r ffordd y mae’r ddau yn bihafio, a’u hagosatrwydd, yn amlwg yn eich pryderu ac yn gwneud i chi deimlo yn annifyr.

Dw i’n credu felly y dylai’r ddau fod wedi cymryd eich teimladau o ddifri gan geisio deall pam eich bod yn holi, ac y dylen nhw fod wedi gwneud pob dim i’ch sicrhau nad oes ganddoch chi ddim rheswm i boeni. Yn sicr fe ddylai eich gŵr fod wedi gwneud mwy o ymdrech i leddfu’ch pryderon achos dw i’n cymryd ei fod o’n ymwybodol o’r math o berthynas sydd ganddoch chi a’ch chwaer, a’r elfen gystadleuol sydd rhyngoch chi. A sôn am hynny – gofynnwch i chi eich hun os mai patrwm eich perthynas fel chwiorydd sy’n llywio eich ofnau rŵan. Mae’n swnio fel petai chi wedi arfer a bod yn ail feiolin (fel y basa Caryl Parry Jones yn ddweud) i’ch chwaer pan oeddech chi’n ifanc, a’r ddwy ohonoch chi’n genfigennus – y naill o’r llall. Fel plant oedd hi wastad eisiau’r hyn oeddech chi’n cael, ac a fyddai hi yn mynnu ei gael?

William a Harry

Mae’r gystadleuaeth a’r gwrthdaro yma rhwng brodyr a chwiorydd, y sibling rivalry ys dywed y Sais, yn gyffredin iawn, wrth gwrs – mi rydan ni’n clywed am y cecru rhwng y tywysogion William a Harry hyd at syrffed, er enghraifft. Petai eich chwaer yn bihafio yn yr un modd efo gŵr rhywun arall, a fyddech chi’n ei chondemnio? Neu ydach chi yn bod yn or-sensitif achos mai eich gŵr chi ydi o? Os ydach chi’n meddwl ei bod hi wir yn bihafio mewn modd annerbyniol yna dw i’n meddwl y dylech chi esbonio sut ydach chi’n teimlo a gofyn iddi beidio eich tanseilio a pheidio â fflyrtio. Os oes ganddi unrhyw feddwl ohonoch chi yna fe ddylai hi wrando arnoch chi. Gair o rybudd – gall hyn fod yn brawf ar eich agosatrwydd fel chwiorydd.

I droi at eich gŵr – esboniwch eich teimladau yn iawn iddo, peidiwch â’i gyhuddo o ddim – jesd eglurwch yn onest sut mae’r berthynas rhyngddo fo a’ch chwaer yn eich effeithio. Os oes ganddoch chi berthynas gref yna mi ddylai fod yn fodlon rhoi’r gorau i’r tecstio a’r fflyrtio, hyd yn oed os ydi o’n gweld yr holl beth yn ddiniwed. Os ydy’ch chwaer ddim yn hapus efo hyn – tyff! I chi y dylai o fod yn driw, ac i ddyfynnu un arall o ganeuon Caryl Parry Jones – gall chwarae droi’n chwerw. Os nad ydi o’n fodlon yna mae arna’i ofn fod yna grac yn eich perthynas, affêr neu beidio.

Flynyddoedd yn ôl fe ddywedodd fy ngreddf wrtha’i fod yna rhywbeth o’i le yn y ffordd yr oedd fy mhartner yn bihafio – yn mynd a’i ffôn efo fo i’r toilet er enghraifft. A phan ges i gyfle mi edrychais i ar ei ffôn o – rhywbeth na wnes i erioed cynt a tydw i fyth wedi ei wneud wedyn – a darganfod ei fod yn tecstio hen gariad. O’i wynebu, y canlyniad oedd i’r berthynas chwalu ac yn ôl at yr hen gariad yr aeth o. Peth cryf ydi greddf. Gwrandewch ar eich un chi.