Mae Llywodraeth Cymru dan y lach am roi’r gorau i dalu miloedd o bunnau i gwmnïau bysus redeg gwasanaethau yng nghefn gwlad…
Mae pobol ar hyd a lled Cymru yn poeni am ddyfodol teithiau bysus mewn ardaloedd gwledig, wrth i gyllid dros dro i gefnogi’r gwasanaethau hyn ddod i ben tros yr Haf.
Fis yma mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi bod Cynllun Argyfwng Bysiau yn dod i ben ar 24 Gorffennaf.
Drwy’r cynllun yma mae £48 miliwn o arian ychwanegol wedi ei wario ar gynnal gwasanaethau bysus ac adfer y gwasanaeth yn dilyn y pandemig, ac i gefnogi yn sgil yr argyfwng costau byw.
Yn wreiddiol roedd y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth, ond cafodd ei ymestyn am dri mis er mwyn cynnig “sefydlogrwydd tymor byr” i’r diwydiant, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Ond mae ymateb chwyrn wedi bod i’r penderfyniad i dynnu’r plwg ar y cyllid gyda nifer yn pryderu y bydd gwasanaethau bysus – sydd eisoes yn dameidiog ac anghyson – yn diflannu yn gyfan gwbl mewn rhai ardaloedd.
Mae Golwg wedi siarad gydag un ddynes yn y gogledd sy’n dweud y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w gwaith os fydd y gwasanaeth bws yn cael ei golli yn ei hardal hi.
“Gadael nifer o bobl yn ynysig”
Un gwleidydd sydd wedi derbyn cwynion lu gan ei etholwyr yn Nwyfor a Meirionydd yw Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru.
Mae wedi disgrifio’r penderfyniad i ddirwyn y Cynllun Argyfwng Bysiau i ben fel un “anghyfrifol” sydd wedi dod ar “yr adeg anghywir”.
“Y peryg gwirioneddol ydi byddwn ni’n gweld nifer o ddarparwyr bysus yng Nghymru yn gorffen rhai o’u llwybrau nhw,” meddai wrth Golwg.
“Canlyniad hynny fydd gadael nifer o bobl yn ynysig a bydd nifer o bobl heb fynediad i wasanaethau hanfodol fel meddygfeydd a mynd i siopa.
Mae’n rhagweld y bydd ardaloedd gwledig fel Dwyfor, Meirionydd, Ceredigion a Phowys yn cael eu heffeithio yn sylweddol.
“Mae o’n anghyfrifol mewn gwirionedd i gael gwared ar bres sy’n cefnogi’r gwasanaethau yma ac yn cefnogi nifer o’n pobl fwyaf bregus a difreintiedig ni ar adeg pan mae costau byw wedi bod, ac yn parhau i gynyddu,” meddai.
“Rŵan ydi’r adeg anghywir i wneud hyn, ond dylen nhw ddim bod yn edrych i dorri p’run bynnag.”
Yn ôl Mabon ap Gwynfor mae pentref Llanbedr ger Harlech, yn enghraifft o rywle gwledig yn ei ethol a fyddai’n dioddef yn fawr o ganlyniad i lai o fysus.
“Mae yna beryg go-iawn y byddwn ni’n gweld gwasanaethau yno ac ym Meirionydd wledig yn cael eu cwtogi yn sgil methiant y Llywodraeth i ariannu trafnidiaeth gyhoeddus yn iawn,” meddai.
Gyda Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr hawl i Lanbedr gael ffordd osgoi, mae Mabon ap Gwynfor yn dweud y byddai colli’r bysus yn ail glec.
“Fydd pobl Llanbedr ac arfordir Meirionydd yn dioddef ddwywaith drosodd o ganlyniad i hyn, sy’n gwbl anfoesol mewn gwirionedd.”
“Ergyd drom i’r diwydiant”
Un arall sydd wedi cyfleu ei gwrthwynebiad yw Natasha Asghar, sy’n Weinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth a Thechnoleg ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.
“Bydd tynnu arian yn ôl ar gyfer bysiau yn ergyd drom i’r diwydiant gyda llawer o gwmnïau yn rhybuddio am doriadau llym i wasanaethau yn gyffredinol,” meddai wrth Golwg.
“Rwyf wedi cyfarfod â llawer o berchnogion cwmnïau bysus dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw wedi dweud wrthyf eu bod yn agos iawn at fynd i’r wal.
“Bydd cael gwared ar y cyllid yn drychinebus ac yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus hyd yn oed yn fwy anodd i bobl ei defnyddio.
“Mae bysus yn achubiaeth gymdeithasol i lawer o bobl a dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych i gynyddu’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus – yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru.”
Mewn ymateb i’r pryderon, mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Bysiau Cymru, wedi ymateb ar y cyd gan ddweud y bydd “Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Awdurdodau Lleol a chwmnïau bysiau i fanteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol”.
Dim stop yn OneStop Dyffryn Ogwen
Ar hyn o bryd, mae sefyllfa bysiau Dyffryn Ogwen yng Ngwynedd yn un sydd wedi codi pryder ac yn rhagflas o beth gall toriadau cyllid eu golygu i wasanaethau yn y dyfodol.
Mae Catrin Wager, Cynghorydd Cymunedol ym Methesda, wedi cychwyn deiseb mewn ymateb i’r pryderon hyn.
Fe wnaeth y ddeiseb ddenu dros 600 o lofnodion o fewn y 24 awr gyntaf, ac mae yn gwrthwynebu cyfres o newidiadau amserlen sydd wedi eu cyhoeddi gan gwmni bysiau Arriva.
Dywedodd Catrin Wager ei bod hi wedi trafod nifer o broblemau ynglŷn â’r gwasanaeth bysus gyda phobl leol – megis eu bod nhw’n orlawn a ddim yn rhedeg ar amser.
Yn ystod y trafodaethau yma y daeth i ddeall fod cwmni Arriva yn torri nôl ar nifer y teithiau bysus yn yr ardal.
“Doeddwn i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw a pan ges i olwg ro’n i wedi synnu o weld beth sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Arriva o ran y gostyngiad yn y nifer o fysus,” meddai wrth Golwg.
“Dydi’r amserlen ddim yn glir o ran lle fydd y bysus yn mynd na pa ffordd.
“Dydi o ddim yn enwi rhai o brif gymunedau Dyffryn Ogwen megis Gerlan, Rachub, Carneddi, felly mae’n anodd i bobl wybod pa ffordd mae’r bysus yn rhedeg ac os ydyn nhw’n mynd i’r cymunedau yna o gwbl.”
Un o’r prif bryderon am y newidiadau yw na fydd gan Arriva fws yn galw yn Llys y Gwynt, neu safle bws OneStop, rhwng Bangor a Bethesda.
Mae rhai o drigolion Bethesda yn dibynnu ar y bws i’r OneStop i allu cyrraedd eu gwaith, a Catrin Wager yn poeni am effaith hyn ar ei hetholwyr.
“Does yna ddim safle bws yn agos i Lys y Gwynt felly dydi o ddim fel eu bod nhw’n gallu neidio i ffwrdd yn rhywle arall a cherdded o fanno, mae’n rhywbeth sy’n poeni pobl yn fawr iawn a dyna sail cychwyn y ddeiseb.
“Dw i’n meddwl bod yna deimlad eithaf cryf yn y dyffryn yma bod pobl eisiau gweld buddsoddiad yn y gwasanaeth bysus a mwy o fysus yn rhedeg, yn enwedig ar amseroedd prysur.”
Er nad ydi o’n glir os ydy penderfyniad y Llywodraeth i gael gwared ar y Cynllun Argyfwng Bysiau wedi arwain at y newidiadau i’r amserlen gan Arriva yn Nyffryn Ogwen, mae pryderon bod y cwtogi ar wasanaethau yn adlewyrchiad o sefyllfa sydd am waethygu.
Dywed Catrin Wager y byddai hi “ddim yn synnu” petai sefyllfa Dyffryn Ogwen yn cael ei hailadrodd mewn gwahanol rannau o Gymru yn y dyfodol agos.
“Dw i’n ymwybodol bod Arriva wedi cyhoeddi bod yna newidiadau eraill ar lwybrau gwahanol a dw i’n clywed negeseuon gwahanol gan wahanol bobl o ran beth sy’n dŵad, felly dwi’n bryderus,” meddai.
“Yn amlwg dim dyna’r ydan ni eisio. Rydan ni mewn argyfwng hinsawdd ac rydan ni mewn argyfwng costau byw.
“Rydan ni wir angen bod yn symud at wneud cludiant cyhoeddus yn effeithiol fel ein bod ni’n gallu dibynnu arno fo fel ffordd o symud o gwmpas.
“Mae’n drist iawn ein bod ni’n edrych ar sefyllfa lle mae pobl yn cael eu gadael ar ôl yn llythrennol os dydi’r bws ddim yn dod i’w cymuned nhw a dydi hynny ddim yn iawn.
“Mae o’n mynd i effeithio pobl sydd efo problemau iechyd, pobl hŷn, pobl sydd methu fforddio rhedeg car – a ddylai o ddim.”
“Bydd yn rhaid i fi roi fy ngwaith i fyny os fydd yna ddim bws”
Mae Heather Williams yn teithio ar fws i OneStop Llys y Gwynt bob dydd er mwyn mynd i lanhau yng gorsaf draffig yr heddlu yn Llandygai, rhwng Bethesda a Bangor, ac yn poeni am ddyfodol ei swydd.
“Dw i’n dal y bws am 6.25 yn y bore i OneStop ac wedyn yn cerdded ar hyd y lôn o fana i’r gwaith,” meddai.
“Dw i’n gweithio yna am ddwy awr ac wedyn dw i’n mynd yn ôl i OneStop i ddal y bws 8.40 i Fangor i lanhau yn yr orsaf dân.
“Dwi’n 61 rŵan ac wedi gweithio ar hyd fy oes. Dw i wedi cael y bus pass ers blwyddyn ac mae o wedi bod yn briliant. Ond bydd yn rhaid i fi roi fy ngwaith i fyny os fydd yna ddim bws.
“Y stop nesaf ydi un ai Tregarth neu Gastell Penrhyn ac mae o’n ormod o ffordd i gerdded. Dw i ddim yn dreifio o gwbl.
“Hyd yn oed os fysa yna wasanaeth arall, fysa ddim ots gen i dalu i fynd i’r gwaith, er fyswn i £500 y mis allan o bocad.”
Yn ôl Heather, mae’r gwasanaeth bws i Lys y Gwynt – sy’n cynnwys garej betrol, gwesty a sawl bwyty – yn un poblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o bobl sy’n mynd i’w gwaith.
“Dw i methu deall pam eu bod nhw’n stopio fo, mae yna hogia yn gweithio dros nos yn y garej neu yn y Travelodge ac yn dal y bws 8.40 i fynd adra o’u gwaith,” meddai.
“Mae yna lot o bobl di-gartref yn byw yn y Travelodge hefyd ac yn defnyddio’r bws i fynd a’r plant i’r ysgol.
Nid yw Heather Williams yn credu bod cwmni Arriva yn deall yn llawn yr effaith bydd y newidiadau yma’n eu cael ar y gymuned.
“Fysa fo’n talu i un o reolwyr Arriva o Sunderland fod yn eistedd ar y bws trwy’r dydd i gael gweld, achos tydyn nhw ddim yn deall o gwbl,” meddai.
“Gweithred angenrheidiol”
Mae Arriva wedi ymateb i’r pryderon gan ddweud mai er mwyn gwella prydlondeb mae’r newidiadau wedi cael eu gwneud.
“Mae’r llwybr wedi’i addasu i wella prydlondeb y gwasanaeth 67 ar y cyfan, gyda’r amser o beidio gweithredu i mewn i OneStop yn cael ei fuddsoddi yn amser rhedeg yr holl daith er mwyn sicrhau gweithrediad prydlon y gwasanaeth,” meddai llefarydd ar ran Arriva.
“Nid ar chwarae bach mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud, ond rydym yn credu bod y weithred yn angenrheidiol er mwyn bod o fudd i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”