Mae hyfforddwr tîm o ddawnswyr gwerin o Gasnewydd yn pryderu bod timau dawnsio Cymreig drwyddi draw yn “heneiddio”.

Fe fydd Ceri Morgan a’i griw, Gwerinwyr Gwent, yn perfformio yn rhan o arlwy Gŵyl Werin Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd ar benwythnos gŵyl y banc 5-8 Mai. Ef hefyd yw prif stiward yw ŵyl, a swyddog cyhoeddusrwydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.