Hanner ffordd i lawr Little Peter Street, ardal Deansgate-Castlefield, rhwng yr Afon Medlock a Chamlas Rochdale, ar ochr ddeheuol canol dinas Manceinion, mae adeilad nodweddiadol diwydiannol brics coch, sydd â sawl llawr. Yn y 1980au roedd y Boardwalk yn un o’r canolfannau byddai’r Anhrefn yn canu ynddo yn rheolaidd. Yn ddiweddar cerddais ar hyd Little Peter Street i hel atgofion.