Mae’n cliché ei fod yn digwydd mor rheolaidd. Bob gwanwyn, mae ymddangosiad y blagur a’r blodau mân yn sioc i’r system – fel tase fy nghorff wedi anghofio’n llwyr amdanyn nhw dros y gaeaf.

Mae gweld penbyliaid, adar bach phennau dail y ddraenen wen yn dod â diléit i mi bob tro, fel taswn i’n eu gweld am y tro cynta erioed. Ac yn sydyn reit, mae yna fyd o bosibilrwydd ar stepen y drws, a’r gwahoddiad gan y tywydd (weddol) braf i fynd i’w ddarganfod.