Difyr oedd darllen myfyrdodau Huw Prys Jones ar helyntion diweddar yr SNP [‘Gallai trafferthion yr SNP dolcio ymgyrch YesCymru’, Golwg 06/04/23] gan roi cryn bwyslais ar fethiannau honedig Nicola Sturgeon.

A hithau wedi ennill nifer dirif o etholiadau ei gwlad, dod o fewn trwch blewyn o sicrhau annibyniaeth ac ennyn clod ledled y byd, mae Huw Prys Jones yn sicr yn ddewr wrth fentro ei beirniadu mor hallt.