Ar ôl bod yn loncian yng nghyffiniau ei chartref dros y cyfnod clo, penderfynodd artist a chyn-filwr o Ddyffryn Nantlle newid cyfeiriad ei gwaith celf…

Daeth yr artist Gwen Owen i werthfawrogi ei hardal yn fwy wrth fynd i redeg ar hyd hen lein reilffordd ger ei chartref yn Rhostryfan, Caernarfon, yn ystod y cyfnod clo ’nôl yn 2020. Teimlai’n ffodus ei bod hi’n gallu dianc o’i thŷ a chrwydro’r fro, a hithau’n wanwyn braf.