Mae dylanwadwr sydd wedi denu dros 100,000 o ddilynwyr ar-lein yn ennill ei fara menyn drwy greu fideos yn hyrwyddo bwytai a bars Lerpwl.

Ar ei gyfrif TikTok personol, mae Iwan Steffan, a gafodd ei fagu ym mhentref Rhiwlas ger Bethesda yng Ngwynedd, hefyd yn adrodd straeon ysbryd y ddinas sy’n gartref iddo ers pymtheg mlynedd.

Cyn dechrau creu cynnwys digidol, bu Iwan, sy’n 33 oed, yn gwneud sawl swydd wahanol, gan gynnwys gwerthu ffêc tan a diodydd ‘shots’ mewn clybiau nos.