Bydd cyfle arbennig i bara-athletwyr wneud popeth o rwyfo dan do, golffio, rygbi cadair olwyn, gymnasteg, tenis bwrdd a saethu targed yr Haf hwn…

Bwriad gŵyl para-chwaraeon newydd sydd wedi’i lansio yn Abertawe yw tynnu pawb o bob oed a gallu corfforol ynghyd i roi cynnig ar y campau, yn ôl Rheolwr Partneriaethau Chwaraeon Anabledd Cymru.