Un fantais o gyrraedd y gwth mawr o oedran dwi ynddo erbyn hyn yw y gall rhywun edrych nôl ar yrfa hir ac amrywiol…

Ac yn sgil Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos diwethaf, dwi wedi bod yn hel atgofion am rai o’r menywod gwych sydd wedi bod yn fosys ac yn benaethiaid arna i dros y blynyddoedd.

Llinos Wynne, y cynhyrchydd benywaidd cyntaf i fi weithio iddi yn Radio Cymru, ei gwreiddioldeb a’i hangerdd yn esiampl wych i gyw ymchwilydd.