Mae’n siŵr y byddai cefnogwyr y rhan fwya’ o bleidiau gwleidyddol ar draws y byd yn gwirioni pe bai ganddyn nhw arweinydd fel Nicola Sturgeon, yn gyfathrebwraig dda, yn ennill etholiadau ac yn cynnal ymddiriedaeth ei phobol.

Dyna pam fod y syndod at ei hymddiswyddiad yn uwch y tu allan i’r Alban nag yr oedd yn y wlad ei hun. Yr amseriad oedd yr unig sioc yno; ers tro, roedd sywlebyddion y wasg a thrafodwyr y gwefannau cymdeithasol wedi bod yn sôn am ddiwedd ei chyfnod.