Wrecsam, wrth gwrs, yw’r clwb pêl-droed gyda’r ddau gefnogwr enwoca’ yn y byd i gyd yn grwn.

Mae Ryan (Reynolds, nid Giggs) a Rob (Macaleni, nid Brydon) yn cael eu caru yn y gogledd ddwyrain am roi’r dref ar fap y byd… wel, ar fap pawb yn Mericia sy’n gwylio’r gyfres Welcome to Wrexham.

Ahd nevah hurd o’ Wales untill I saw that documentary,” ebe Hank yr Ianc yn llon wrth ddyn teledu tra ar ymweliad â’r Cae Ras.