Roedd yna rwystredigaeth yng Ngwynedd yr wythnos hon wrth i arweinydd y cyngor yno ddweud bod y ffordd mae arian cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei rannu yn “anhrefnus a mympwyol”.

Gymaint oedd rhwystredigaeth Dyfrig Siencyn nes iddo alw am ddatganoli mwy o bwerau i Gymru.