Pan ddaeth caffi “reit arbennig” ar werth yn Eryri, doedd gan bâr priod ddim dewis ond perswadio’u hen gymdogion yn Llundain i fudo a chyd-redeg y fenter…

Wrth chwilio am dŷ yn Eryri, roedd Julia a James Cowdery wedi bod yn ymweld â siop a chaffi’r Garreg ym mhentref Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth yn gyson ac wedi gwirioni ar deimlad y lle. Ond prin oedden nhw’n meddwl y bydden nhw’n dod yn berchen ar y busnes.