Mae Cymro o Fro Morgannwg yn byw ei freuddwyd draw ym Mharis, gan gyfuno tri o’i brif ddiddordebau – rygbi, Ffrainc a newyddiaduraeth.

Newyddiadurwr chwaraeon i asiantaeth newyddion rhyngwladol, Agence France-Presse, ydy Illtud Dafydd, a’i brif faes ydy rygbi Ffrainc.

Dros gyfnod y Chwe Gwlad, bydd yn gohebu ar holl gemau cartref tîm Les Bleus yn y Stade de France, yn ogystal ag adrodd ar hynt y garfan rhwng y gornestau.