Mae’r wal dalu wedi ei chodi ar gyfer yr erthygl ganlynol, i bawb gael blas bach ar gynnwys y cylchgrawn…

Beth yw ystyr rhyddid go-iawn? Dyna’r cwestiwn sydd wrth wraidd sioe newydd gan ddramodydd o Gwmbrân sy’n “lais newydd”…

Comedi tywyll wedi ei lleoli adeg ‘gin craze’ y 1700au yw cynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr Bara Caws. Mae Cariad yn Oes y Gin – cynhyrchiad cyntaf y dramodydd Chris Harris i fynd ar daith – yn sôn am brofiadau pâr ifanc bohemaidd sy’n cicio dros y tresi. Mae hi’n sioe sy’n codi cwestiynau am faterion fel rhyddid o rigol cymdeithas, a rhyddid yr hunan mewn perthynas garwriaethol.

Mae hi wedi deillio o raglen ‘Sgen ti Syniad?’ Bara Caws, a oedd yn galw am syniadau newydd am waith theatrig i un neu ddau actor. Roedd Cariad yn Oes y Gin yn un o dair drama a gafodd eu ffilmio i’w dangos ar y We, a nawr hi yw’r gyntaf o’r tair i gael ei datblygu i’w theithio. “Mae Chris yn llais newydd i ni, ac mae ei ymroddiad a’i frwdfrydedd heb eu hail,” meddai Betsan Llwyd, cyfarwyddwr y ddrama.

“Mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni gomisiynu Mari Mathias i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y sioe, ac mae Cêt Haf, un o’n coreograffwyr mwyaf cyffrous, hefyd yn rhan o’r cyfanwaith creadigol. Mae arddull hon yn debyg i ryw fath o ‘anterliwt’. Mae hi’n ddoniol, yn drasig, yn egnïol iawn, ac yn cynnwys cerddoriaeth fyw – y cymysgedd perffaith ar gyfer un o sioeau cymunedol Bara Caws.”

Sgwrs gyda’r dramodydd

Mi fuodd Golwg yn sgwrsio dros Zoom gyda’r dramodydd Chris Harris – sydd bellach yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr – am ei ddrama newydd…

Beth yw cefndir y ddrama?

Two-hander 70 munud yw hi, wedi ei lleoli yng nghyfnod hanes y gin craze. Am tua 30 mlynedd, o 1698 i 1736, roedd gin yn ddiod newydd sbon i’r wlad, wedi dod o’r Iseldiroedd pan oedd William of Orange yn frenin… Roedd bron pawb, yn ninas Llundain yn sicr, yn yfed jin, achos nid oedd rheolau i’w ddistyllu achos doedd neb yn gwybod beth oedd y ddiod yma. Roedd pawb yn feddw dwll drwy’r amser. O’r ifanc i’r hynaf, a phlant yn ei yfed i frecwast. Doedd dim ffordd o’i fesur, a pheintiau ohono’n cael eu harllwys.

Yr hyn oedd yn ddiddorol am y cyfnod oedd bod y dosbarthiadau uwch a’r tlodion wedi uno mewn ffordd… Y bobol dlawd yn yfed gyda’r bobol gyfoethog… Er y pethau erchyll oedd yn digwydd, a’r effaith ddrwg roedd y ddiod yn ei gael ar gyrff pobol, a’r salwch meddwl, roedd yna ddatblygiad cymdeithasol, a phobol, yn enwedig y tlodion, yn teimlo eu bod nhw’n bia rhywbeth am y tro cyntaf… Yn 1736 mae’r ddeddf gyntaf yn dod i mewn, sy’n golygu bod bywoliaeth llawer o bobol yn cael ei ddifetha.

Mae’r ddrama wedi ei lleoli yn 1736 pan mae cwpwl ifanc carimastaidd, rabble-rousers eitha’ bohemaidd, yn gadael eu bywyd yng Nghymru ac yn teithio i Lundain i gael blas ar yr hwyl. Ry’n ni’n dilyn siwrne’r cwpwl yma dros tua blwyddyn wrth iddyn nhw ddistyllu a masnachu jin, ond mae pethe’n newid iddyn nhw o fewn cwpwl o fisoedd pan maen nhw’n cael babi a phan mae’r deddfau yma yn dod i mewn.

Pam sgrifennu am gyfnod y gin craze?

Cafodd [y ddrama] ei sgrifennu yn y cyfnod clo cyntaf (2020) ac ar yr adeg hynny ro’n i’n cwestiynu lot y syniad o ryddid, a phwy oedd yn cael dweud beth oedden ni’n cael ei wneud fel cymdeithas… Roedd yn hala’r cwestiwn – pwy sy’n cael rheoli ein bywydau ni, a phwy sy’n rheoli ein tynged?

Dw i newydd droi’n 30, ac yn priodi mis Awst, yn symud mewn i bennod newydd yn fy mywyd. O fewn perthnasau ac o fewn y syniad yma o gariad – ble mae’r cyfaddawdu? Lle mae hwnnw’n dod i’r amlwg pan rydych chi’n ymroi eich bywyd i rywun arall mewn perthynas agos? Mae’r syniad o gariad yn cael ei gwestiynu drwy’r holl ddrama. I’r pwynt rydyn ni’n cwestiynu erbyn diwedd y ddrama – a oedd y ddau yma, Dylan a Nansi, yn caru ei gilydd o gwbl?

Mae hi’n ddrama am gaethiwed, addiction. Ac i beth rydyn ni’n gaeth. Ocê, alcohol, jin – hynny yw e ar lefel arwynebol, ond mae iddi lefel ddyfnach. R’yn ni gyd mewn rhyw ffordd yn gaeth i rywbeth. Syniad, neu freuddwyd… Mae Dylan yn gymeriad sydd wedi ei fagu ar fferm, a’i dad yn ei weld e fwy fel etifedd yn lle mab. Mae e’n ysu am gyffro.

Ro’n i yn meddwl am gyplau roc-a-rôl fel Dylan [Thomas, y bardd] a Caitlin, Sid a Nancy, Richard Burton a Liz Taylor… y cyplau dylanwadol yma o ran math yna o berthnasau. Ar ôl i Dylan farw, dw i’n cofio darllen am Caitlin yn dweud nad oedd hi’n sicr yn y diwedd a oedden nhw’n caru ei gilydd. Nad stori gariad mohoni, ond stori yfed.

Drwy gydol hanes, a hyd yn oed nawr – faint o bobol sy’n penderfynu’n bwrpasol i fyw ar y tu allan, a pheidio ymroi i rigol gymdeithasol? Maen nhw’n byw yn ôl eu bywydau a’u credoau eu hunain. Gyda Dylan a Caitlin Thomas, mae canlyniadau drwg ac eitha’ trasig wedi dod allan o hynna. Ond pa bynnag benderfyniadau maen nhw’n eu gwneud, maen nhw’n eu gwneud nhw oherwydd dyna maen nhw wir ei eisiau.

Felly ro’n i’n trio edrych ar beth sydd wedi digwydd i ni yn bersonol, yn gymdeithasol, ac yn wleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf trwy’r lens hanesyddol.

Ymhle mae’r ddrama yn digwydd?

Yn hanesyddol roedd y gin craze yn digwydd yn bennaf yn St Giles yn Llundain, felly mae’r golygfeydd cyntaf yn digwydd rywle yng Nghymru, a’r gweddill yn digwydd yn Llundain fawr.  Roedd St Giles fel ‘Skid Row’, achos dyna le’r oedd pobol yn mynd i ddistyllu jin, ac roedd yn fudr, yn orlawn, a phawb yn byw ar ben ei gilydd. Mae Nansi a Dylan yn fath o gymeriadau sy’n ysu am y cyffro yna, i gymharu â’r bywydau maen nhw wedi eu cael o’r blaen.

Maen nhw’n rhywiol iawn, ond dw i ddim yn dweud fod hwn yn explicit o gwbl. Dyma gwpwl ifanc sy’n cwympo mewn cariad yn eitha’ cyflym, a rhaid i ni weld hynna. O ran eu siwrne, rhaid i ni ddangos eu bod nhw’n eitha’ anifeilaidd o ran faint maen nhw’n caru ei gilydd, ond hefyd yn y ffordd eitha’ creulon maen nhw’n trin ei gilydd.

Mae yna gyfarwyddiad llwyfan erbyn y diwedd, lle mae Nansi yn neidio ar gefn Dylan ac yn ei frathu ac yn ei daro. Dyma’r math o ddelweddau gawson ni gan lygad-dystion i berthynas Dylan a Caitlin Thomas, eu bod nhw’n rowlio allan o’r pybs…

Er ei fod wedi ei leoli yn 1736, mae’r naws yn fodern ofnadwy. O’r sgyrsiau cychwynnol am y gwisgoedd, am y set, am y gerddoriaeth – dw i’n gwybod bod yna naws fodern ynddo fe. Dyw e ddim cweit yn steampunk: mae hwnnw’n fwy o’r Oes Fictoria, ond dyna’r ffordd orau i’w ddisgrifio fe. Mae’r gynulleidfa yn gwbl ymwybodol ein bod ni mewn lle presennol modern ond yn edrych drwy lens hanesyddol. Ry’n ni’n gweithio gyda choreograffydd, Cêt Haf. Ac mae ei gwaith am ffocysu am ba mor agos maen nhw fel cymeriadau.

Dyma’r tro cyntaf i dy waith fynd ar daith. Sut brofiad yw hynny?

Mae wedi cymryd bron 10 mlynedd ers i fi ddechrau sgrifennu am y tro cyntaf, a gweld y peth cyntaf – ryw two-hander 20 munud – yn y Congress yng Nghwmbrân. Dw i wedi bod yn ffodus o gael hyfforddiant gan Theatr y Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru, i gael comisiynau bach, ond dyma’r comisiwn cyntaf llawn proffesiynol sy’n mynd ar daith dros Gymru.

Y cyfnod mwya’ cyffrous i fi ydi’r cyfnod ni ynddi nawr. Mae’r sgript yma wedi bodoli yn fy mhen am bron i ddwy flynedd. Dy’n ni mynd i gyrraedd y llwyfan ymhen ryw bedair wythnos. Mae’r bont lle’r ydyn ni ynddo nawr – yn trosglwyddo’r sgript i’r actorion… mae’n rhaid iddyn nhw hedfan o’r nyth.

Betsan Llwyd sy’n cyfarwyddo. Mae hi wedi bod yn rhan o’r diwydiant theatr iaith Gymraeg ers blynyddoedd lawer, ac yn deall fel sut y dylai drama dda swnio. Mae cael ei dramatwrgiaeth hi drwy gydol y broses wedi bod mor ffantastig a dw i wedi ymddiried ynddi hi bob cam o’r ffordd.

Y tu hwnt i hynna, mae Nansi a Dylan ganddon ni, maen nhw’n gig a gwaed. Dw i’n siŵr bod Siôn Emyr a Mali O’Donnell yn awchu at gymryd y cymeriadau yma a’u datblygu nhw eu hunain. Ar ôl y diwrnod cyntaf, mae’r llinellau yn eistedd yn eu cegau nhw ond mae ganddyn nhw eu penderfyniadau eu hunain o le dylen nhw fynd â’r siwrnai. Efallai bod rhywbeth a oedd yn gwneud synnwyr i fi ar fy ngliniadur yn fy swyddfa ddim bellach yn gwneud synnwyr ar eu siwrne emosiynol fel cymeriadau. Felly dw i’n ffeindio ein bod ni’n mwyngloddio’r gwir aur sydd yn y ddrama. Felly dyma’r cyfnod mwya’ cyffrous i fi.

Dw i’n ffodus ofnadwy fod Bara Caws, Theatrau Sir Gâr, Sefydliad y Glowyr yng Nghoed Duon – dyna’r tri dw i’n datblygu’n bennaf gyda nhw ar hyn o bryd – yn ddigon agored i wrando arna i a chymryd risg. Dyna beth mae pob dramodydd ei angen, bod rhywun yn cadw ffydd ac yn mentro arnyn nhw. Dyna pryd mae dramodydd yn ymestyn ei adenydd.

  • Bydd Cariad yn Oes y Gin (Bara Caws) ar daith rhwng 28 Chwefror a 25 Mawrth.