Darllenais ddwy erthygl wych yn Golwg (02/02/23) – ‘Sioe Newydd Iwan Bala’ a ‘Rhannu trysorau celf y genedl’.

Yn yr erthygl ‘Sioe Newydd Iwan Bala’ mae’n dweud ei fod wedi penderfynu yn ddiweddar rhoi nifer o’i hen weithiau i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn eu plith mae’r rhai a enillodd iddo’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn 1997.