Mae diddordeb cynyddol yng ngwasanaeth traddodiadol y Plygain, a mwy o wasanaethau nag erioed wedi cael eu cynnal eleni, gyda gwefan newydd wedi ei chreu i hyrwyddo’r traddodiad.

Gwasanaeth Nadolig Cymreig yw Plygain sy’n cael ei gynnal mewn eglwys, fel arfer, gyda’r pwyslais ar ganu carolau yn ddigyfeiliant, rhwng misoedd Tachwedd ac Ionawr.

Un lle sydd wedi cynnal gwasanaeth Plygain newydd eleni yw Lledrod, y pentref hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Thregaron.