Gan ei bod yn Ddydd Miwsig Cymru, mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer yr erthygl ganlynol hon, i bawb gael blas ar y Babell… ROC ON!
Mae dydd Gwener yr wythnos hon yn ddiwrnod arbennig yng nghalendr y Sîn Roc Gymraeg.
Ac un sydd wedi ei chyffroi i’r byw ar drothwy Dydd Miwsig Cymru yw ein Gohebydd Digidol, Elin Owen…
Dw i wrth fy modd efo Dydd Miwsig Cymru. I fi, mae o’n teimlo fel Dydd Gŵyl Dewi ychwanegol wrth i ni ddathlu beth sydd gan ein hiaith a’n diwylliant i’w gynnig.
Mae yna ryw gyffro’n adeiladu wrth i fwy a fwy o artistiaid gyhoeddi beth sydd ganddyn nhw ar ein cyfer, ac wrth i drefnwyr gigs rannu trefn y dydd. Ac fel yr arfer, mae yna ddigonedd o berfformiadau byw a thiwns newydd yn glanio ar y dydd nefol, sef dydd Gwener y degfed o Chwefror.
SBARDUN
Un o’r prosiectau mwyaf sy’n cael ei lansio ar Ddydd Miwsig Cymru eleni yw EP gyntaf label High Grade Grooves, Sbardun. Yn cynnwys 15 o artistiaid o bob rhan o Gymru, cafodd yr EP pump trac ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Eos a Chymru Greadigol, ac mae’n gynnyrch dros flwyddyn o gydweithio rhwng y cynhyrchwyr a sêr nesaf y sîn.
Ynghyd â’r EP, bydd High Grade Grooves hefyd yn cynnal y parti lansio ym mar Porter’s yng Nghaerdydd. Bydd pob artist sy’n rhan o Sbardun yn perfformio set unigol yn ogystal â’u sengl newydd.
“Mae’r noson yn mynd i ddod â thalentau dyfodol Cymru ynghyd, i gyd o dan yr un to,” meddai Endaf sy’n DJ, cynhyrchydd a sylfaenydd label High Grade Grooves.
Yn ôl Endaf, mae’r teitl Sbardun yn cyfeirio nid yn unig at y cyffro cynyddol o amgylch cerddoriaeth electroneg Cymraeg, ond hefyd yr egni sydd gan unigolion y sîn, a’r teimlad y gallai ffrwydro ar unrhyw eiliad.
Traciau Sbardun:
‘Pelydrau’ gan Endaf, Tom Macaulay a Melda Lois
‘Niwed’ gan Shamoniks, skylrk. a Sachasom
‘Tears in Rain’ gan Mesijo, Maditronique a Mike R.P.
‘Cyffwrdd’ gan Ifan Dafydd, keyala a Sera
‘Eiliadau’ gan Eädyth, Mali Haf ac Unity
Cynhaliwyd y sesiynau recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, a Music Box Studios yng Nghaerdydd. Gan anelu at ddatblygu talent newydd, mae Endaf yn falch bod y prosiect wedi rhoi’r cyfle i rai artistiaid gydweithio gyda chynhyrchwyr proffesiynol mewn stiwdio am y tro cyntaf. Un o’r artistiaid hynny oedd y rapiwr o Ddyffryn Nantlle, Hedydd Ioan, sy’n perfformio dan yr enw skylrk ar y trac ‘Niwed’…
‘Niwed’
Dau ddiwrnod gwyllt yn y stiwdio yng Nghaerdydd ddaeth â Shamoniks, skylrk a Sachasom at ei gilydd i greu’r gân ‘Niwed’.
“Wnes i gyrraedd y stiwdio yng Nghaerdydd ar ôl cael trên o Fangor am bedwar y bore, felly mae’r diwrnod cyntaf yna yn blur,” meddai Hedydd.
“Ond dw i’n cofio gorffen y diwrnod cyntaf a meddwl: ‘Mae hyn yn ofnadwy, dydyn ni ddim efo dim byd, does yna ddim byd yna’.
“Ond wnaeth bob dim ddod at ei gilydd ar yr ail ddiwrnod – diolch byth!”
Doedd y tri, Sam ‘Shamoniks’ Humphreys, Izak ‘Sachasom’ Zjalič a Hedydd, heb weithio gyda’i gilydd fel triawd cyn hynny. Er hynny roedd Izak wedi perfformio gyda skylrk o dro i dro.
“Roedd o’n rili neis cael pawb yn yr un gofod,” eglura Hedydd, “achos er bod o’n lyfli gallu cydweithio efo pobol dros y We, does yna ddim byd yn cymharu efo gweithio efo pobol yn y cnawd. Mae’r egni yna mor unigryw.”
Yn ôl Hedydd, mae’r gân ‘Niwed’ yn edrych ar sut mae digwyddiadau bywyd naill ai yn gwneud niwed neu’n dy symud yn dy flaen. Er bod y geiriau’n dod yn hawdd, roedd y tri’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer y sŵn roedden nhw eisiau ei greu.
“Roedd o yn y mis cyn i albwm newydd Kendrick Lamar ddod allan, so o’n i ac Izak yn edrych ar stwff fo ac roedden ni’n cario ymlaen mynd yn ôl at ‘The Heart Part 4’,” meddai Hedydd.
“Mae yna dipyn o beat switches yn y gân felly roedden ni’n edrych mewn i fwy o stwff efo beat switches ac aethon ni o hynna.
“Felly pan aethon ni mewn y diwrnod cyntaf, roedd bron hanner y diwrnod cyntaf yn sbïo trwy ganeuon rydan ni’n licio, sbïo trwy ganeuon roedden nhw’n samplo ar rheiny ac edrych trwy references gwahanol, a gweld be fysa’n gallu gweithio.
“Wnaeth o weithio’n eithaf neis achos wnes i sgrifennu bob dim, wedyn roedd Izak a Sam yn rhannu’r cynhyrchu.”
Ond bu’r profiad yn wahanol i broses arferol Hedydd o recordio.
“Mae o’n wych bod cerddoriaeth mor hawdd i gynhyrchu, achos mae popeth dw i wedi gwneud wedi ei recordio a rhyddhau fy hun.
“Ond mae o’n neis cael profiad o weld beth sy’n gallu cael ei gyflawni pan ti mewn stiwdio broffesiynol.
“Mae’r focus yn lot gwell achos yr unig bethau sydd mewn stiwdio rili ydi’r pethau i recordio, so does yna ddim unrhyw beth i ddwyn dy sylw.
“Mae’r egni i gyd yn mynd tuag at y miwsig.
“Dw i’n ffeindio bo fi’n mwynhau o lot fwy achos ti’n mynd mewn i’r gofod ac yn meddwl: ‘Oce, am hyn a hyn o amser, jyst y miwsig rydan ni’n meddwl am’.
“Ers cael mwy o brofiad o gydweithio efo pobol, dw i’n ffeindio bo fi’n mwynhau o fwy na gweithio ar ben fy hun.
“Ti’n dysgu gymaint o weithio efo – nid yn unig pobol greadigol – ond pobol efo profiadau bywyd gwahanol.
“Mae o jyst yn gyffrous bo ni wedi cael y ffydd a’r ariannu yna i fynd mewn i’r stiwdio efo rhyddid creadigol llwyr.
“Mae o’n rhoi lot o ffydd i fi bod yna dal ffyrdd o weithio’n broffesiynol tra dal i sicrhau bod syniadau creadigol yr artistiaid yn aros wrth wraidd y gwaith.”
‘Eiliadau’
Cafodd y gantores a cherddor soul electronig, Eädyth, ei phartneru gyda’r artist ifanc o Gaerdydd, Mali Haf, a’r rapiwr, Unity, er mwyn creu’r gân ‘Eiliadau’. Roedd y siwrne yn un droellog, yn ôl Eädyth, wrth iddi arbrofi gyda’i sgiliau cynhyrchu a’u gwylio yn datblygu.
“Wnes i gynhyrchu’r gân efo Mali ac Unity yn y stiwdio yn gynharach yn y flwyddyn a ro’n i’n cael vibe hip-hop, ond wnaeth sgiliau cynhyrchu fi rili gwella dros y Dolig.
“Ro’n i’n meddwl: ‘Dw i rili isio arddangos be dw i’n gallu gwneud nawr’.
“Felly wnes i ailgynhyrchu’r gân a wnaeth o ddod allan fel dubstep/hip-hop vibe a dw i rili wedi plesio efo fo.
“Mae’n swnio’n rili gwahanol, ac yn hollol wahanol i fy sengl ddiweddaraf, ‘Heal Yourself’.
“Roedd o’n brofiad rili neis cydweithio efo Mali ac Unity.
“Roedd o’n teimlo fel y collaboration perffaith ar gyfer y prosiect yma jest achos mae’r ddwy’n debyg i fi, o ran sut maen nhw’n gweithio a phersonoliaethau nhw hefyd – rili chilled out a rili hawdd i weithio efo nhw.”
Bydd Eädyth hefyd yn perfformio yng Nhlwb y Bont ym Mhontypridd ddydd Sadwrn yma, 11 Chwefror, mewn gig sy’n rhan o bartneriaeth rhwng Beacons Cymru a Merched yn Gwneud Miwsig. Hefyd yn perfformio bydd yr artist ifanc o Dywyn, Francis Rees, a’r band pync-roc o’r Cymoedd, CHROMA.
‘Cwestiynau’
Label arall sydd wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn newydd hyd yn hyn yw INOIS, ac maen nhw’n ôl gyda sengl newydd gan Tesni Hughes y tro hwn. ‘Cwestiynau’ yw sengl gyntaf y cerddor ifanc o Fôn gyda’r label ac mae hi am fod yn ei pherfformio yn fyw yn Wrecsam ar Ddydd Miwsig Cymru.
Dim ond wrthi ers 2019, mae Tesni eisoes wedi perfformio ei chaneuon gwreiddiol yng Nghaffi Maes B, Gŵyl Triban a thafarndai dros Gymru. Wedi’i dylanwadu gan fandiau fel Breichiau Hir, Mellt ac Oasis… pop, roc ac indi ydy pethau Tesni.
“Dw i’n rili cyffrous i allu rhyddhau’r gân yma gan bo fi heb ryddhau ers amser rŵan,” meddai.
“Dw i erioed wedi rhyddhau cân mor serious â hyn.
“Dw i fel arfer yn sgrifennu stwff yn eithaf syml o adra, yn recordio nhw fy hun a rhyddhau nhw.
“Rŵan, mae bob dim wedi dod yn reit serious efo’r label ac mae o jyst yn nuts sut mae’r gân wedi datblygu mewn blwyddyn a sut dw i wedi datblygu efo’r gân.
“Es i at Osian Cai ym Mhenygroes a wnaethon ni jyst jamio a wnaeth o ddatblygu i fod yn hon, a dw i wrth fy modd efo’i.”
Wedi cystadlu yn erbyn sylfaenwyr y label INOIS, Osian Cai a Hedydd Ioan, ym Mrwydr y Bandiau Maes B yn 2021, mae Tesni’n falch eu bod nhw bellach yn gweithio gyda’i gilydd.
“Mae’r ddau ohonyn nhw’n absolute lejands, chwarae teg.
“Mae’r tri ohonom ni wedi nabod ein gilydd ers amser… O’n i’n nabod Hedydd drwy brosiectau [Cwmni Theatr] Frân Wen, wedyn yn nabod Osian trwy gyfryngau cymdeithasol a gigs a ballu, a dw i wedi bod yn gwylio gigs nhw dros y blynyddoedd.”
Dim ond blas o’r hyn allwn ni ddisgwyl gan Tesni dros y flwyddyn nesaf yw ‘Cwestiynau’…
“Dw i eisio trio cael albwm allan erbyn diwedd y flwyddyn.
“Mae gen i gwpl o ganeuon wedi sgrifennu’n barod ond gobeithio dros y misoedd nesaf gawn ni gyfle i recordio rhai o’r rheina.
“Dydi miwsig fi ddim byd fel Breichiau Hir ond mae lot o stwff newydd fi ar ôl ‘Cwestiynau’ wedi cael eu dylanwadu gan sŵn a geiriau Breichiau Hir, ac wedi dylanwadu’r ffordd dw i’n sgrifennu.
“Mae yna gwpl o diwns sy’n mynd i fod yn debyg i’r math o beth mae Mellt yn gwneud, ac wedyn mae Oasis jyst yn fand dw i’n gwrando ar ers o’n i’n ddim o beth wnaeth ysbrydoli fi i godi’r gitar yna pum mlynedd yn ôl.
“Eleni, dw i eisio trio gwneud gymaint o gigs â dw i’n gallu dros y wlad.
“Wnes i gig yng Nghaerdydd flwyddyn ddiwethaf a fyswn i’n lyfio mynd yn ôl i wneud gig yna.”
Bydd Tesni’n chwarae yn rhan o Gigs Cefn Car yn nhafarn y Saith Seren yn Wrecsam ar Ddydd Miwsig Cymru, yn cefnogi Morgan Elwy, Dafydd Hedd ac Y Newyddion.
Gig lansio Tara Bandito
Un gig sy’n haeddu sylw arbennig ar Ddydd Miwsig Cymru yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, yw lansiad albwm gyntaf Tara Bandito. O deyrnged i’r band Datblygu, baledi galar dros golled ei thad, ymchwiliadau i iechyd meddwl, dathliadau o fod yn ferch, a gobaith am Gymru newydd; mae caneuon Tara Bandito yn bleser o brofiad gwrando sy’n dilyn taith ddifyr y gantores.
Trwy guriadau a synau electroneg, ynghyd â’i sŵn pop indi, a dylanwad ei amser yn India, mae Tara wedi creu beth mae hi’n ei alw’n “hunangofiant” o albwm.
A lle gwell i’w lansio na yng Nghlwb Ifor Bach?
“Mae’r gig lansio bach yn random,” meddai Tara.
“Ro’n i eisio gwneud y lansiad yng Nghlwb Ifor Bach achos dw i wedi bod yn mynd i Clwb ers dw i’n blydi 15! Er dyla fi ddim wedi bod yn mynd!
“Ond rŵan, i feddwl bo fi’n cael gwneud gig lansio yna, mae hwnna’n rili, rili cyffrous.
“Mae o’n teimlo fel, ie, dw i’n cael dweud bod yr albwm allan, ond dw i’n cael rhoi sioe ymlaen hefyd.”
Ar lawr gwaelod Clwb Ifor Bach ar Ddydd Miwsig Cymru mi gewch fwynhau’r artistiaid hip-hop brysur, Lloyd a Dom James, y ddeuawd hip-hop newydd Gwcci, Hana Lili gyda’i sain unigryw a’i band, Paris Fouladi gyda’i llais hudolus. A Ci Gofod fydd yn cychwyn yr arlwy gyda set acwstig.
Fyny’r grisiau, rhwng setiau’r artistiaid yma, mi fydd Tara Bandito, wrth gwrs, y pedwarawd slacker roc Hyll, Mali Haf gyda’i thiwns breuddwydiol, ac Y Dail yno i agor y sioe.
Bydd y wledd yn dechrau am bedwar y pnawn ac mae tocynnau ar gael yn rhad ac am ddim.
Gigs Dydd Miwsig Cymru
- Tara Bandito, Lloyd & Dom James, Hyll, Gwcci, Mali Haf, Ci Gofod, Hana Lili, Y Dail, Parisa Foualdi
4yp | Nos Wener, 10 Chwefror | Clwb Ifor Bach, Caerdydd
- Noson Sgwrs a Chân yng nghwmni Cleif Harpwood a Geraint Cynan gan gyflwyno llais newydd lleol, Alis Glyn
7.30 | Nos Wener, 10 Chwefror | Galeri, Caernarfon
- Noson o gerddoriaeth byw gan y band ‘Hyfryd Iawn’ yn canu rhai o’r clasuron Cymreig
8yh | Nos Wener, 10 Chwefror | Tafarn y Vale, Felin-Fach
- Bydd penwythnos o ddathlu Cerddoriaeth Cymraeg yn Wrecsam yn cynnwys:
- Minas, Lizzie Squad, Sage Todz, Mr Phormula, Rufus Mufasa a Larynx DJS
7yh | Nos Wener, 10 Chwefror | Tŷ Pawb
- Morgan Elwy, Dafydd Hedd, Y Newyddion a Tesni Hughes
7.30 | Nos Wener, 10 Chwefror | Saith Seren
- Meic agored
12 – 3yp | Dydd Sadwrn, 11 Chwefror | Magic Dragon Brewery Tap
- Hazmat ac Alffa
3 – 4.30yp | Dydd Sadwrn, 11 Chwefror | The Parish
- Tara Bandito, Kidsmoke, Eitha Da, Awst, Campfire Social, Mari Mathias, Cosmic Dog Fog, DJs Focus Wales
6:45-2yb | Nos Sadwrn, 11 Chwefror | The Rockin’ Chair
- Elis Derby, Mantis a Francis Rees
8yh | Nos Wener, 10 Chwefror | Y Cŵps, Aberystwyth
- Meinir Gwilym
8yh | Nos Wener, 10 Chwefror | Dylan’s, Cricieth
- Sister Wives, Kim Hon, Hazmat, Egotist
7.30 | Nos Wener, 10 Chwefror | Future Yard, Lerpwl