Mae dau ffrind gafodd eu magu yn yr un dref yn Swydd Efrog bellach yn byw eu bywydau drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd, ac yn gweithio i’r un sefydliad.

Daw Angharad Alter ac Elizabeth James o dref arfordirol Whitby, ac mae’r ddwy’n adnabod ei gilydd ers iddyn nhw fod yn blant.

Cariad sydd wedi eu tywys i Gymru ac at yr iaith, gyda’r ddwy’n briod â dynion Cymraeg.