Y mab fferm 27 oed o Lanrhaeadr-ym-mochnant yng ngogledd Powys yw aelod diweddara’ cast Rownd a Rownd. Mae yn actio rhan y triniwr gwallt ‘Trystan Morgan’…

Sut brofiad oedd ymuno â chast Rownd a Rownd?

Anrhydedd llwyr!

Ges i ddau glyweliad haf diwetha’, a ro’n i’n ffilmio cwpwl o olygfeydd ar gamera efo un o’r actorion, a dw i ddim yn mynd i ddweud pwy – spoilers!