Mae Prif Weithredwr newydd cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes yn un garw am bêl-droed, ac wedi treulio cyfnod yn rhoi cymorth i’r gamp yn y Balkans.

Cyn gweithio gyda UEFA yng Ngogledd Macedonia, Croatia a Montenegro, fe fuodd Llŷr Roberts yn Rheolwr Ymchwil, Strategaeth a Gwerthuso gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Gan ddechrau yn 2012 gyda’r her o foderneiddio’r sefydliad, y tad i ddau oedd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth ac edrych ar lywodraethiant y Gymdeithas.