Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar yr eitem ganlynol, i bawb gael blas ar arlwy cylchgrawn Golwg…

Mae’r tad 34 oed yn aelod o griw Unit Thirteen sydd i’w gweld yn trwsio a sbriwsio ceir ar y gyfres Pen Petrol ar S4C. Hefyd, mae wedi chwarae hoci dros Gymru… 

Sut ddaeth criw Unit Thirteen at ei gilydd?

Trwy sioeau [arddangos ceir] wnaethon ni gyfarfod. Roedd yna sioeau ers talwm yng Nghastell Bodelwyddan, a sioe Volkswagens oedd yr un lle wnaethon ni gyfarfod.

Roedd yna lot ohonom ni mewn i Volkswagens ar y pryd ac yn mynd i’r sioeau ac yn sylweddoli bod hwn-a-llall ond yn byw rownd gornel i fi.

Jest grŵp o ffrindiau rydan ni, sydd mewn i ffidlan a chwarae efo ceir, ac rydan ni wedi bod yn mynd i’r sioeau efo ein gilydd a helpu ein gilydd efo adeiladu ceir ers rhyw ddegawd rŵan.

Oes gan ddynion sy’n hoffi pimpio ceir enw drwg?

Oes, yn bendant!

Roedden ni ar Gogglebocs [Cymru] y noson o’r blaen. Roedden nhw’n gwylio Pen Petrol ar hwnna – ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw fel ‘o boy racers’ a hyn a llall yn syth bin. Stereotypical ‘de, dim clem…

Mae yna boy racers o gwmpas, ond rydan ni gyd [yn Unit Thirteen] yn ein 30au! Does gennym ni ddim mynadd efo bod allan gyda’r nos efo ceir. Dydyn ni ddim rili’n cyfarfod yn nunlle heblaw am mewn sioeau, neu yn ystod y dydd.

Ond mae gen ti lot o grwpiau’n cyfarfod mewn grwpiau mawr, mawr mewn meysydd parcio a chodi twrw.

Dydyn ni erioed wedi bod am hynna. Mae gennym ni ychydig bach mwy o barch na grwpiau eraill, ond hwyrach bod hynna achos bod ni’n hŷn.

Sut mae ceir yn dod â phobl at ei gilydd?

Fyswn i’n dweud bod gen i ffrind o ryw fath, drwy geir, ym mhob rhan o Brydain, ac ymhellach. Mae pawb yn trafeilio’n bell i’r sioeau a ti’n gweld yr un bobol sydd yn dueddol o fynd iddyn nhw i gyd. Os ti’n gweld rhywun blwyddyn ar ôl blwyddyn, fedri di ddim peidio cael sgwrs efo rhywun am rywbeth maen nhw wedi gwneud i’w car, neu sut maen nhw wedi gwneud hyn a llall. Ac wedyn trwy hynna ti’n gallu ffeindio allan pwy ydyn nhw ar Facebook neu Instagram neu beth bynnag.

Sut wnaethoch chi ddechrau chwarae roller hockey?

Dw i wedi bod yn chwarae hoci [tra yn gwisgo roller blades] ers ro’n i’n tua wyth oed. Wnes i chwarae dros Gymru pan o’n i’n fengach. Roedd o ar yr adeg oan oedd roller blading yn in-thing, a wnes i jest dal i fynd.

Buodd yna league yng ngogledd Cymru ers talwm, ond wnes i stopio am ychydig pan ddaeth hwnna i ben. Wedyn wnaeth yr hogiau o dîm Bethesda Cobras benderfynu bo nhw eisio dechrau chwarae’n ôl, felly wnes i ymuno efo nhw.

Mae’n rhaid i ni drafeilio i Telford i chwarae gemau ac achos bod y timau i gyd ar wasgar, rydan ni’n cyfarfod yn fano rhyw unwaith y mis a chwarae rhyw dair gêm mewn diwrnod, yn lle bo chdi’n gorfod trafeilio bob tro.

Os dw i yng Nghaerdydd, wna i wastad sbïo i weld os oes gan y Cardiff Devils gêm adref. Mae hoci iâ yn gêm gyffrous. Yn amlwg ar rew maen nhw, a dydyn ni ddim, achos ond yn Deeside neu Gaerdydd mae gen ti hynna. Mae o’n uffar o noson allan yn mynd i’w gweld nhw’n chwarae.

Hoff gar i chi weithio arno?

Car fi’n hun – Volkswagen Type 3 Fastback o 1973. Hwnna sydd gen i fel car sioe ar y funud.

Car delfrydol?

Porsche 356 neu Audi RS2 Avant.

Hen bethau ydyn nhw, dw i ddim yn ffan o geir newydd o gwbl. Dydi’r cymeriad ddim yna mewn ceir newydd. Ac mae’n anoddach i chdi allu trwsio ceir newydd dy hun, a ti’n gorfod mynd â nhw i garej a phlygio nhw mewn i gyfrifiadur a hyn a llall. A dw i ddim yn licio talu pobol i drwsio fy mhethau i.

Fyddwch chi’n ceisio cael y plant i gymryd diddordeb mewn ceir?

Ges i a’r wraig, Ceri, fabi bach ar 19 Ionawr, hogan fach, Gwenno Grug. Dw i wedi dweud erioed mai’r Volkswagen Fastback sydd gen i fydd yn mynd i’r mab bach chwech oed ar ôl fi, felly fydd rhaid fi gael rhywbeth arall rŵan i Gwenno.

Beth yw eich atgof cynta’?

Un o fy atgofion cyntaf ydi cael mynd ar fy ngwyliau am y tro cyntaf, a bron â boddi yn y pwll, gan fy mod i wedi neidio mewn heb armbands.

Ges i fagwraeth wych. Ges i fy nwyn i fyny yn ardal Tremadog/Porthmadog. Ches i erioed gam gan fy rhieni. Roedd y ddau yn rhedeg fi a fy mrawd i rywle bron bob gyda’r nos ac ar y penwythnos i rygbi neu roller hockey.

Beth sy’n eich gwylltio?

Gormod i enwi! Ond yn ddiweddar, pobol diamynedd yn sbïo ar eu watch wrth aros am eu presgripsiwn yn y chemist.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Byswn i’n gwahodd criw Unit Thirteen i all you can eat Chinese.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fysa’n well i mi ddweud Ceri’r wraig!

Ydy Ceri yn hoffi ceir?

Dydi hi ddim rili mewn i geir, ond rydan ni wedi bod efo ein gilydd ers hir, hir rŵan, felly dydi hi ddim wedi bod efo fawr o ddewis. Ond roedd hi’n kind of deall cyn i ni fynd efo ein gilydd rhywsut bo gennai broblemau felly efo ceir… Ond fydda i’n dweud bob tro, mae’n well na bo fi’n pub bob nos!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi? 

Rhwygo tîn fy nhrowsus wrth chwarae rygbi amser cinio yn yr ysgol, a gorfod cerdded ar hyd y lle efo fy nhrôns yn y golwg trwy’r p’nawn.

Gwyliau gorau?

Es i a chriw o fy ffrindiau pennaf i sioe Volkswagen fwya’r byd i Wöthersee yn Awstria yn 2015. 10 diwrnod o chwerthin, tynnu coes, a chwrw da mewn ardal hynod o brydferth, a cheir o’r safon uchaf ym mhob man. Nefoedd!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Ar hyn o bryd – babi newydd!

Hoff ddiod feddwol?

Rum Barti Ddu efo ginger ale a leim, neu beint o Guinness.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Volkswagen Repair Manual: Type 3.

Hoff air?

Chwistrellchwysdangesail.

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Pa mor lwcus rydan ni i gael byw mewn ardal mor brydferth â Morfa Nefyn, a mor braf oedd ceal mwynhau’r ardal heb sŵn blincin jet-ski yn mynd trwy’r dydd.

Rhannwch gyfrinach efo ni… 

Dw i yn licio gwylio pethau random ar YouTube fel bois yn torri gwellt, llnau rugs, a thrin traed gwartheg.