Chwalwyd y wal dalu ar gyfer y golofn ganlynol, i bawb gael blasu arlwy cylchgrawn Golwg…

Roedd David Carrick o flaen llys yn Llundain ddydd Llun diwethaf. Cyfaddefodd ei fod wedi treisio deuddeg menyw ddwsinau o weithiau dros gyfnod o ddeunaw mlynedd, ynghyd â degau o droseddau rhyw eraill. Cyfaddefodd i fwy nag 80 o droseddau unigol.

Roedd e’n aelod o Heddlu Metropolitan Llundain, fel yr oedd Wayne Couzens, a lofruddiodd Sarah Everard yn 2021. Dyna’r cysylltiad amlycaf rhwng y ddau droseddwr afiach – eu bod, ill dau, yn aelodau o’r heddlu.

Heblaw, wrth gwrs, mai dynion yw’r ddau.

Dyn hefyd yw Andrew Tate. Mae e yn y ddalfa yn Romania ar hyn o bryd, tra bo heddlu’r wlad honno yn ymchwilio i honiadau o fasnachu a threisio menywod.

Mae e’n ddyn hefyd.

Beth bynnag fydd canlyniad yr achos yn Romania, mae ymddygiad Andrew Tate ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn gwbl wenwynllyd ac afiach. Mae wedi ymfalchïo mewn taro menywod. Mae wedi honni bod menywod yn eiddo i ddynion. Wedi pregethu goruchafiaeth dynion dros fenywod ar bob cyfle. Ac mae ei ddylanwad e, a’r cyfrifon sy’n chwyddo ei bresenoldeb ar-lein, yn enfawr ar filoedd o filoedd o fechgyn ledled y byd.

Gwnaeth heddluoedd Cymru a Lloegr gofnodi miliwn a hanner o achosion o gam-drin domestig yn y flwyddyn ddaeth i ben ym Mawrth 2021, mwyafrif llethol y rhain yn gamdriniaeth gan ddynion yn erbyn menywod.

Rhwng 2011 a 2021 lladdwyd cyfartaledd o 80 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr gan ddynion oedd yn bartneriaid neu’n gyn-bartneriaid iddyn nhw.

Mae hawliau merched a menywod unwaith eto’n cael eu herydu gan ddynion yn Affganistan. Mae dynion Iran yn parhau i ormesu merched a menywod. Mae ‘cosbi’ merched a menywod drwy daflu asid drostyn nhw, neu eu llofruddio, yn dal yn broblem mewn llawer rhan o’r byd.

Mae dynion yn rhai o daleithiau America yn gorfodi merched a menywod sydd wedi eu treisio i gario a geni babis eu treiswyr, sy’n berthnasau iddyn nhw weithiau. Yno hefyd mae llofruddiaethau torfol â drylliau gan fechgyn a dynion yn bla.

Oes, mae gan y byd cyfan broblem. A dynion yw’r broblem. Dynion. Nid menywod trawsryweddol.

Ond o ddarllen y Wasg ac edrych ar y cyfryngau cymdeithasol mae’n ymddangos fel petai carfan fawr o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn poeni mwy am ddyrnaid o fenywod trawsryweddol, ac yn poeni y bydd dynion yn cael rhwydd hynt i wisgo fel menywod er mwyn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gam-drin, treisio, llofruddio merched a menywod.

Dyw e’n gwneud dim synnwyr.  Does dim angen cuddwisg ar ddynion i droseddu yn erbyn menywod. Mae hynny’n gwbl gwbl amlwg.

Felly, gadewch lonydd i’r lleiafrif bach iawn sy’n drawsryweddol, er mwyn dyn.

A gwnewch rywbeth cadarnhaol i fynd i’r afael â phroblem enfawr a real gwrywdod gwenwynllyd.