Cyfuniad o Un Nos Ola Leuad a Happy Valley. Dyna fel y mae Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol yn disgrifio gwaith diweddaraf y cwmni, Pijin – addasiad yn seiliedig ar nofel boblogaidd Alys Conran, Pigeon.

Mae’r nofel wedi ei lleoli yn un o ardaloedd llechi’r gogledd yn y 1990au cynnar, ac yn sôn am gyfeillgarwch plant a pha mor fregus yw’r cyfeillgarwch hwnnw.