Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Eleni, mae gen i’r fraint o fod yn un o feirniad gwobrau Tir na-nOg (sy’n gwobrwyo llyfrau i blant a phobol ifanc) a dw i ar fin gorffen darllen yr holl lyfrau gwych sydd yn cael eu hystyried. Felly mae’r llyfr dw i ar ganol ei ddarllen yn gyfrinachol – am reswm da! Dw i hefyd wedi dechrau’r nofel Cwlwm gan Ffion Enlli. Prynais gopi o fy siop leol, Siop Elfair yn Rhuthun, ar ôl gwrando ar bodlediad Caru Darllen gan Gyngor Llyfrau Cymru. Dw i’n mwynhau’n barod, ac wrth fy modd efo’r clawr prydferth.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Heb os, Siwan gan Saunders Lewis. Pan ddechreuais ddysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, astudiais y llyfr yma a newidiodd fy mywyd. Roedd y llyfr yn gyflwyniad i lenyddiaeth, diwylliant a hanes Cymraeg i fi – ac un o’r rhesymau pam wnes i ddisgyn mewn cariad efo’r iaith. Mae llyfrau Cymraeg wedi bod yn allweddol ar fy nhaith i’r Gymraeg a’r ddrama Siwan yn cynrychioli adeg hollbwysig ar y daith honno.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf

Mae llyfrau a darllen yn chwarae rhan anferth yn fy mywyd – mi fyddwn i hollol ar goll heb fy silffoedd llyfrau a cherdyn llyfrgell. Mae yna ddau lyfr sy’n aros yn y cof fel y rhai a ddylanwadodd fwyaf arna i. Yr un cyntaf yw Matilda gan Roald Dahl – llyfr mi wnes i ddarganfod yn blentyn, yn Saesneg, ac wedi ail-ddarganfod yn oedolyn pan ddechreuais ddysgu Cymraeg. Yr ail yw The Bloody Chamber gan Angela Carter: straeon byrion gothig wnaeth chwarae rhan fawr yn fy newis i astudio llenyddiaeth yn y brifysgol. Mae’r ddau lyfr yn cyferbynnu’n llwyr â’i gilydd ond dw i’n eu caru nhw’n fawr iawn.

Y llyfr sy’n hel llwch

Pandora’s Jar: Women in the Greek Myths gan Natalie Haynes. Dw i wrth fy modd efo llenyddiaeth sy’n ail-ddychmygu merched o fytholeg – straeon o Wlad Groeg yn enwedig. Mae llyfrau gan Madeline Miller a Natalie Haynes yn ffefrynnau, fel enghraifft. Prynais gopi o Pandora’s Jar fisoedd yn ôl; darllenais y penodau cyntaf ond dw i heb ddychwelyd ato am ryw reswm – efallai oherwydd fy mod i’n cael fy nenu fwy gan ffuglen. Yn anffodus, mae’r llyfr wedi bod yn eistedd ar ochr fy ngwely yn hel llwch. Dw i’n gobeithio y bydda i’n dychwelyd at y llyfr hwn pan fydd yr amser yn iawn.

Llyfr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Fel rhywun sydd wedi cyrraedd y Gymraeg fel oedolyn, dw i weithiau yn teimlo fel dw i’n trio dal i fyny efo pethau diwylliannol – fel profi’r Eisteddfod. Darllen y clasuron yw un o’r pethau ar fy rhestr ac mae Un Nos Ola Leuad ar ben y rhestr honno. Astudiais yr addasiad Saesneg yn y brifysgol ond dw i heb lwyddo i ddarllen yr un gwreiddiol eto. Prynais gopi o stondin Y Lofa yn Nhregaron flwyddyn diwethaf a dw i’n edrych ymlaen at ei darllen eleni.

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Collected Lyrics gan Patti Smith neu Nick Cave: dau o fy hoff artistiaid. Dw i’n caru eu cerddoriaeth ac albymau ond hefyd yn mwynhau darllen eu geiriau neu farddoniaeth yn ystod cyfyng gyngor.

Llyfr sy’n codi gwên

Pentre Du, Pentre Gwyn gan Myrddin Ap Dafydd. Mae’r llyfr yma yn atgoffa fi o amser arbennig iawn yn fy mywyd. Wnaeth fy chwaer a’i chariad ei brynu i mi yn anrheg ar ôl cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2019. Trois at y casgliad yma o farddoniaeth sawl gwaith yn ystod y cyfnodau clo, i godi calon.

Llyfr i’w roi yn anrheg

Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros. Dyma’r llyfr dw i’n argymell i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg ac eisio dechrau darllen llyfrau Cymraeg, neu unrhyw un sy’n siarad Cymraeg ond ddim fel arfer yn darllen llawer yn y Gymraeg. Mae’n stori deimladwy a grymus ac un sy’n aros efo chi ar ôl i chi ei gorffen. Mae hefyd wedi cael ei sgrifennu mewn ffordd hollol hygyrch a chynhwysol a dyma pam mae hi’n gwneud anrheg hyfryd i ddarllenwyr o wahanol fath.

Fy mhleser (darllen) euog

Er fy mod i ddim yn hoff iawn o ffilmiau arswyd, mae gen i bleser darllen euog am lyfrau sbwci a straeon ysbryd. Mae straeon byrion gan Dylan Thomas ac Angela Carter yn ffefrynnau. Dw i wedi darllen The Woman in Black gan Susan Hill sawl gwaith ond heb lwyddo i wylio’r ffilm oherwydd fy mod i’n ofn! Llyfr arswyd arall dw i wedi mwynhau yn ddiweddar yw Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn – mae’n wych!

Llyfr yr hoffwn i fod wedi ei sgrifennu

Unrhyw lyfr gan Elena Ferrante: un o fy hoff awduron yn y byd. Dw i wrth fy modd efo bob un o’i llyfrau. Un diwrnod, hoffwn sgrifennu rhywbeth sydd wedi cael ei ysbrydoli gan brofiad fy nheulu o fyw a gadael yr Eidal mewn steil naratif tebyg i ffuglen Elena Ferrante, ond yn Gymraeg, wrth gwrs.

FRANCESCA SCIARRILLO

 Cafodd ei magu yn Sir y Fflint ond mae hi o dras Eidalaidd. Daeth ei nain a’i thaid ar ochr ei mam i Gymru gyda’i hewythr a’i modryb yn yr 1960au i geisio bywyd gwell, ac yma y cafodd ei mam Lusia a modryb arall, Rosanna, eu geni. Daeth ei nain a’i thaid ar ochr ei thad i Gymru tua’r un adeg, gyda’i thad Gaetano a’i modryb Maria, ynghyd ag aelodau hŷn eraill o’r teulu. O ranbarth Campobasso yn ne’r Eidal mae teulu ei mam, a theulu ei thad o Ariano Irpino yn Campania.

Dechreuodd Francesca ddysgu’r Gymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, am ei bod eisiau ennill ymdeimlad dyfnach o berthyn i’w gwlad. Dywed ei bod hi nawr yn ‘Eidalwraig a Chymraes balch iawn’. Roedd hi ar restr fer Medal y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a chafodd ei hurddo i’r Orsedd yn y brifwyl yn Nhregaron yn 2022. Mae ganddi golofn yn y cylchgrawn Lingo Newydd ac ar wefan Lingo360, ac mae nawr yn diwtor Cymraeg i Oedolion gyda Choleg Cambria. Yn ei swydd bob dydd, mae hi’n swyddog cysylltiadau cyhoeddus gyda chwmni Aura sy’n rheoli llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Sir y Fflint. Mae hi’n byw yn Rhewl, pentref bach ger Rhuthun.