Wnaeth tymor tangnefedd ddim para’n hir. A Harri Bach, Dug Sussex, yn arwain y cwyno. Yn ôl John Dixon, mi ddylai gyfri’ ei fendithion…

“O wrando ar restr hir Harry o gwynion, mae’n ymddangos nad yw’n deall mai’r hyn y mae’n ei ddisgrifio wrth drafod brad, diffyg parch a briffio annheg yw Dull Gweithredu Arferol hanesyddol ei deulu i gyd. Yn wir, trwy gael ei hambygio ychydig gan frawd a ymddiheurodd wedyn, o ran agwedd arferol ei deulu at fusnes y canrifoedd, mae wedi bod yn lwcus braidd a’i frawd yn ymddangos braidd yn llipa. Mi fyddai’r rhan fwya’ o gyndeidiau William wedi gorchymyn i ddyn y fwyell fod wrth law.” (borthlas.blogspot.com)

Mae ein llywodraethau ynghanol helyntion mwy fyth, oherwydd yr holl streiciau. Ond mae Peter Black yn rhybuddio am beryglon mesur newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i orfodi safonau diogelwch ar streicwyr mewn meysydd allweddol…

“…bydd y gyfraith… yn caniatáu i benaethiaid ym meysydd iechyd, addysg, tân, ambilwans, rheilffyrdd a dadgomisiynu niwclear siwio’r undebau a sacio gweithwyr os na fydd lefelau sylfaenol yn cael eu cadw. Un peth sydd heb ei grybwyll yw sut y bydd gweinidogion yn cael staff newydd yn lle’r rhai sydd wedi eu sacio, a hithau’n cymryd blynyddoedd i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol a llawer o’r rheiny’n gallu cael mwy o arian yn gweithio i asiantaeth yn hytrach na’r Gwasanaeth Iechyd. Byddai’n dda wrth gwrs gallu gwarantu lefelau staffio diogel bob dydd o’r flwyddyn, nid dim ond ar ddyddiau streic, a chael cyflogau deche i staff… ond nid dyna bwrpas y ddeddfwriaeth yma. Yn hytrach, mae’r llywodraeth yn mentro rhagor o wrthdaro mewn gwasanaethau allweddol ac i bob pwrpas yn deddfu i danseilio hawliau democrataidd.” (peterblack.blogspot.com)

Wrth i’r bai penna’ am argyfwng y Gwasanaeth Iechyd gael ei roi ar fethu â symud cleifion yn ôl i’w cymunedau, mae’r meddyg Ceidwadol, Andrew Potts, yn cynnwys problem arall a ddechreuodd yng nghyfnod llywodraeth Dorïaidd…

“Mae nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi haneru tros y dri degawd diwetha’, gan gynnwys cwymp o 30% ers datganoli. Ar yr un pryd, mae chwarter poblogaeth Cymru ar restrau aros… Mae’n wir fod ‘blocio gwelyau’ oherwydd diffyg pecynnau gofal cymdeithasol yn cael effaith, ond felly hefyd gostwng nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael yn y lle cyntaf. Llai o welyau, llai o gleifion yn cael eu trin.” (nation.cymru)

Wrth ffarwelio â nation.cymru, mae gan Ifan Morgan Jones rybudd i newyddiadurwyr a selogion y byd gwleidyddol…

“Ar y funud, mae’n teimlo fel petai 25% o’r boblogaeth yn fwy brwd ynghylch ein trafodaeth genedlaethol nag erioed o’r blaen, gyda’r rhan fwya’ o’r gweddill wedi’u heithrio bron yn llwyr. Roedd y gwahaniath braidd yn llym rhwng dathlu ein hunaniaeth yn Qatar, lle’r oedden ni’n canu ‘Yma o Hyd’ ar lwyfan y byd, a chanlyniadau [iaith] y Cyfrifiad ychydig wythnosau wedyn. Ddylai sgwrs genedlaethol fyth droi yn siambr adleisio (hyd yn oed un ar lun het fwced).”