Ddechrau’r wythnos ddaeth y newyddion y mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn ei ofni.

Go brin y gwelwn ni ddewin athrylithgar arall fel Gareth Bale yn y crys coch.

Mi lusgodd Capten Ffantastig ni drwy ddwy gêm agos i Gwpan y Byd y llynedd, wrth sgorio a chreu’r goliau i drechu Awstria a Wcrain yn y gemau terfynol i gyrraedd Qatar.

Ac er iddo brofi siom yn y ffeinals, cofiwch mai fo sgoriodd unig gôl Cymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.